RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 1PWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU

Penodi personau i gadeirio pwyllgorau

68Yr adegau pan fo penodiadau i'w gwneud gan grŵp nad yw'n grŵp gweithrediaeth

(1)

Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu ar gyfer penodi cadeirydd y pwyllgor yn yr achos a nodir yn yr adran hon.

(2)

Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu bod cadeirydd y pwyllgor, yn yr achos hwnnw, i'w benodi gan y grŵp gwleidyddol nad yw'n grŵp gweithrediaeth.

(3)

Achos fel a ganlyn yw'r achos hwnnw—

(a)

mae dau grŵp gwleidyddol (ond dim mwy) ar yr awdurdod,

(b)

nid oes gan yr awdurdod ond un pwyllgor trosolwg a chraffu, ac

(c)

o ran gweithrediaeth yr awdurdod—

(i)

mae'n cynnwys un aelod neu fwy o un grŵp gwleidyddol, ond

(ii)

nid yw'n cynnwys unrhyw aelod o'r grŵp gwleidyddol arall.

(4)

Yn yr adran hon ystyr “grŵp gwleidyddol nad yw'n grŵp gweithrediaeth” yw'r grŵp a nodir yn is-adran (3)(c)(ii).