RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 1PWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU

Penodi personau i gadeirio pwyllgorau

66Y ddarpariaeth mewn rheolau sefydlog ynghylch penodi personau i gadeirio pwyllgorau

(1)

Rhaid i reolau sefydlog awdurdod lleol wneud darpariaeth (“darpariaeth benodi”) ar gyfer penodi personau sydd i gadeirio pwyllgor neu bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod lleol (“cadeiryddion pwyllgorau”).

(2)

Rhaid i'r ddarpariaeth benodi gydymffurfio—

(a)

ag adran 67,

(b)

ag adran 68, ac

(c)

ag adran 69 (ac yn unol â hynny ag adrannau 70 i 73 neu ag adran 74).

(3)

Rhaid i ddarpariaeth benodi beidio â rhwystro person rhag cael ei benodi'n gadeirydd pwyllgor oherwydd bod y person—

(a)

yn aelod, neu ddim yn aelod, o unrhyw grŵp gwleidyddol, neu

(b)

yn aelod, neu ddim yn aelod, o grŵp gwleidyddol penodol.