RHAN 1ATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL
PENNOD 1HYBU A CHEFNOGI AELODAETH O AWDURDODAU LLEOL
Cefnogi aelodaeth
5Adroddiadau blynyddol gan aelodau o awdurdod lleol
(1)
Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau—
(a)
i bob person sy'n aelod o'r awdurdod lunio adroddiad blynyddol ynghylch gweithgareddau'r person fel aelod o'r awdurdod yn ystod y flwyddyn y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi,
(b)
i bob person sy'n aelod o weithrediaeth yr awdurdod lunio adroddiad blynyddol ynghylch gweithgareddau'r person fel aelod o'r weithrediaeth yn ystod y flwyddyn y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi, ac
(c)
i'r awdurdod gyhoeddi pob adroddiad blynyddol sy'n cael ei lunio gan ei aelodau a chan aelodau ei weithrediaeth.
(2)
Caiff y trefniadau gynnwys amodau o ran cynnwys adroddiad y mae'n rhaid iddynt gael eu bodloni gan y person sydd yn ei lunio.
(3)
Rhaid i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i'w drefniadau.
(4)
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.