RHAN 4NEWIDIADAU MEWN TREFNIADAU GWEITHREDIAETH
PENNOD 2AMRYWIADAU ERAILL AR DREFNIADAU GWEITHREDIAETH PRESENNOL
49Y cynigion ar gyfer amrywio'r ffurf ar weithrediaeth
(1)
Rhaid i'r awdurdod lleol lunio cynigion i amrywio ei drefniadau gweithrediaeth, a'u cymeradwyo drwy benderfyniad (os bwriedir defnyddio'r pwerau a roddir gan adran 48).
(2)
Ond, os yw'r awdurdod lleol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, ni chaiff yr awdurdod lleol gymeradwyo cynigion i amrywio ei drefniadau gweithrediaeth onid yw'r maer etholedig wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i'r newid arfaethedig.