RHAN 4NEWIDIADAU MEWN TREFNIADAU GWEITHREDIAETH
PENNOD 1MABWYSIADU FFURF WAHANOL AR WEITHREDIAETH
Dehongli
46Newid mewn trefniadau gweithrediaeth y mae'n ofynnol ei gymeradwyo mewn refferendwm.
At ddibenion y Bennod hon, bydd yn ofynnol cymeradwyo newid mewn trefniadau gweithrediaeth mewn refferendwm os gweithrediaeth maer a chabinet yw—
(a)
ffurf bresennol y weithrediaeth, neu
(b)
ffurf arfaethedig y weithrediaeth.