RHAN 4NEWIDIADAU MEWN TREFNIADAU GWEITHREDIAETH
PENNOD 1MABWYSIADU FFURF WAHANOL AR WEITHREDIAETH
Darpariaethau cyffredinol
45Camau gweithredu os yw'r newid yn cael ei wrthod mewn refferendwm
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys i awdurdod lleol—
(a)
os yw'r newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm, a
(b)
os nad yw'r newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn cael ei gymeradwyo yn y refferendwm.
(2)
Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—
(a)
sy'n crynhoi cynigion yr awdurdod lleol a oedd yn destun y refferendwm,
(b)
sy'n datgan bod refferendwm ar gynigion yr awdurdod lleol wedi gwrthod y cynigion hynny, ac
(c)
sy'n datgan y bydd yr awdurdod lleol yn parhau i weithredu'r ffurf ar weithrediaeth y darperir ar ei chyfer gan ei drefniadau gweithrediaeth presennol.
(3)
Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adran (2) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y refferendwm.