RHAN 1ATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL
PENNOD 1HYBU A CHEFNOGI AELODAETH O AWDURDODAU LLEOL
Cefnogi aelodaeth
I14Mynychu cyfarfodydd o bell
1
Nid yw cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad at gyfarfod o awdurdod lleol wedi ei gyfyngu i gyfarfod o bob person y mae pob un ohonynt yn bresennol yn yr un fangre.
2
At ddibenion unrhyw ddeddfiad o'r fath, mae aelod o awdurdod lleol nad yw'n bresennol yn y fangre lle y cynhelir cyfarfod o'r awdurdod hwnnw (“aelod sy'n mynychu o bell”) yn mynychu'r cyfarfod ar unrhyw adeg os bydd pob un o'r amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni.
3
Yr amodau hynny yw—
a
bod yr aelod sy'n mynychu o bell, ar yr adeg honno—
i
yn gallu gweld a chlywed yr aelodau sy'n mynychu'r fangre, a'i fod yn gallu cael ei weld a'i glywed ganddynt,
ii
yn gallu gweld a chlywed unrhyw aelodau o'r cyhoedd a chanddynt hawl i fynychu'r cyfarfod sy'n bresennol yn y fangre honno ac sy'n arfer hawl i siarad yn y cyfarfod, a'i fod yn gallu cael ei weld a'i glywed ganddynt, a
iii
yn gallu cael ei weld a'i glywed gan unrhyw aelodau eraill o'r cyhoedd a chanddynt hawl felly i fod yn bresennol yn y fangre honno;
b
bod yr aelod sy'n mynychu o bell, ar yr adeg honno, yn gallu clywed unrhyw aelod arall sy'n mynychu o bell ac y mae'r amod ym mharagraff (a) wedi ei fodloni mewn cysylltiad ag ef ar yr adeg honno, a'i fod yn gallu cael ei glywed ganddo;
c
nad yw defnyddio cyfleusterau sy'n galluogi'r amodau ym mharagraffau (a) a (b) i gael eu bodloni mewn cysylltiad a'r aelod sy'n mynychu o bell wedi ei wahardd gan y rheolau sefydlog neu gan unrhyw un neu ragor o reolau eraill yr awdurdod sy'n llywodraethu'r cyfarfod.
4
Rhaid i reolau sefydlog awdurdod lleol sicrhau nad oes cworwm ar gyfer cyfarfod o'r awdurdod lleol ar unrhyw adeg pan fo nifer yr aelodau sy'n mynychu F2mangre’r cyfarfod yn llai na 30% o gyfanswm nifer yr aelodau sy’n bresennol yn y cyfarfod.
F44A
Nid yw is-adran (4) yn atal awdurdod lleol rhag creu rheolau sefydlog sy’n ei gwneud yn ofynnol fod mwy na 30% o gyfanswm yr aelodau sy’n bresennol mewn cyfarfod yn mynychu mangre’r cyfarfod i sicrhau cworwm.
5
Caiff awdurdod lleol wneud rheolau sefydlog eraill ynghylch mynychu cyfarfodydd awdurdod lleol o bell.
6
Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chyfarfodydd o'r awdurdod a fynychir o bell yn unol â'r adran hon.
7
Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â chyfarfod pwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod lleol fel y mae'n gymwys mewn perthynas â chyfarfod o awdurdod lleol.
F38
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
9
At ddiben yr adran hon—
a
mae cyfeiriad at berson (A) yn gweld person arall (B) i'w ddehongli fel cyfeiriad at A yn gweld B pan fo B yn siarad yn y cyfarfod;
b
mae cyfeiriad at berson (C) yn cael ei weld gan berson arall (D) i'w ddehongli fel cyfeiriad at C yn cael ei weld gan D pan fo C yn siarad yn y cyfarfod.
10
Yn yr adran hon—
F1...
ystyr “aelod sy'n mynychu'r fangre” (“member in actual attendance”), mewn perthynas â chyfarfod o awdurdod lleol, yw aelod o'r awdurdod sy'n mynychu'r cyfarfod yn y fangre lle y cynhelir y cyfarfod.