RHAN 2ABSENOLDEB TEULUOL AR GYFER AELODAU AWDURDODAU LLEOL

29Rheoliadau: atodol

Caiff rheoliadau o dan y Rhan hon—

(a)

gwneud darpariaeth ynghylch hysbysiadau sydd i'w rhoi, tystiolaeth sydd i'w dangos, cofnodion sydd i'w cadw a gweithdrefnau eraill sydd i'w dilyn gan aelod o awdurdod lleol neu gan awdurdod lleol;

(b)

gwneud darpariaeth ar gyfer canlyniadau methu â rhoi hysbysiadau, dangos tystiolaeth, cadw cofnodion neu gydymffurfio â gofynion gweithdrefnol eraill;

(c)

gwneud darpariaeth ar gyfer canlyniadau methu â gweithredu yn unol â hysbysiad a roddwyd yn rhinwedd paragraff (a);

(d)

gwneud darpariaeth yn rhoi hawl i aelod o awdurdod lleol (neu o'r weithrediaeth) i gyflwyno cwyn ynghylch penderfyniad gan awdurdod lleol i derfynu cyfnod o absenoldeb neu i ohirio neu ddiddymu cyfnod o absenoldeb;

(e)

gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â hawl a roddir yn rhinwedd paragraff (d) gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch—

(i)

ar ba sail y caniateir cyflwyno cwyn;

(ii)

y person y caniateir cyflwyno cwyn iddo;

(iii)

yr amodau gweithdrefnol i'w bodloni;

(iv)

gwneud cwyn, penderfynu arni a'i heffaith;

(f)

gwneud darpariaeth o ran aelod o awdurdod lleol (neu o'r weithrediaeth) ynghylch i ba raddau—

(i)

y caiff weithredu fel aelod o'r awdurdod (neu o'r weithrediaeth) yn ystod cyfnod o absenoldeb;

(ii)

y mae ganddo hawl i unrhyw fanteision sy'n dod iddo drwy aelodaeth o'r awdurdod (neu o'r weithrediaeth) yn ystod cyfnod o absenoldeb;

(iii)

y mae'n rhwymedig o dan unrhyw ddyletswydd drwy aelodaeth o'r awdurdod (neu o'r weithrediaeth) yn ystod cyfnod o absenoldeb.

(g)

cymhwyso deddfiad neu wneud addasiadau iddo.