RHAN 2ABSENOLDEB TEULUOL AR GYFER AELODAU AWDURDODAU LLEOL

28Absenoldeb rhiant

(1)

Mae'r adran hon yn gymwys i aelod o awdurdod lleol sy'n bodloni amodau rhagnodedig o ran—

(a)

ysgwyddo cyfrifoldeb am blentyn; neu

(b)

disgwyl ysgwyddo cyfrifoldeb am blentyn.

(2)

Mae gan yr aelod hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb rhiant”) at ddibenion gofalu am y plentyn.

(3)

Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—

(a)

i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb rhiant mewn cysylltiad â phlentyn;

(b)

pryd y caniateir cymryd yr absenoldeb rhiant.

F1(4)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5)

Caiff darpariaeth o dan is-adran (3)(b) gyfeirio at y canlynol (ymhlith pethau eraill)—

(a)

oedran plentyn, neu

(b)

cyfnod rhagnodedig o amser sy'n dechrau gyda digwyddiad rhagnodedig.

(6)

Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—

(a)

terfynu cyfnod o absenoldeb rhiant, neu

(b)

diddymu cyfnod o absenoldeb rhiant.

(7)

Caiff rheoliadau—

(a)

(at ddibenion is-adran (2)), ragnodi pethau sydd i'w barnu neu beidio a'u barnu yn bethau sydd wedi eu gwneud, at ddibenion gofalu am blentyn;

(b)

ei gwneud yn ofynnol bod absenoldeb rhiant yn cael ei gymryd fel un cyfnod o absenoldeb ym mhob achos neu mewn achosion penodedig;

(c)

ei gwneud yn ofynnol bod absenoldeb rhiant yn cael ei gymryd fel cyfres o gyfnodau o absenoldeb ym mhob achos neu mewn achosion rhagnodedig;

(d)

ei gwneud yn ofynnol bod yr holl gyfnod o absenoldeb rhiant neu rannau rhagnodedig ohono yn cael ei gymryd neu eu cymryd ar adegau rhagnodedig neu erbyn adegau rhagnodedig;

(e)

caniatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad y mae cyfnod o absenoldeb rhiant yn dechrau;

(f)

gwneud darpariaeth i awdurdod lleol ohirio cyfnod o absenoldeb rhiant y mae aelod yn dymuno ei gymryd;

(g)

rhagnodi cyfnod lleiaf o absenoldeb neu gyfnod mwyaf o absenoldeb y caniateir ei gymryd fel rhan o gyfnod absenoldeb rhiant;

(h)

rhagnodi uchafswm agregiad y cyfnodau o absenoldeb rhiant y caniateir eu cymryd yn ystod cyfnod rhagnodedig o amser.