(1)Mae'r adran hon yn gymwys i aelod o awdurdod lleol sy'n bodloni amodau rhagnodedig o ran—
(a)ysgwyddo cyfrifoldeb am blentyn; neu
(b)disgwyl ysgwyddo cyfrifoldeb am blentyn.
(2)Mae gan yr aelod hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb rhiant”) at ddibenion gofalu am y plentyn.
(3)Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—
(a)i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb rhiant mewn cysylltiad â phlentyn;
(b)pryd y caniateir cymryd yr absenoldeb rhiant.
(4)Ni chaniateir i reoliadau ddarparu i absenoldeb rhiant mewn cysylltiad â phlentyn fod yn hwy na chyfnod o dri mis neu gyfanswm o dri mis.
(5)Caiff darpariaeth o dan is-adran (3)(b) gyfeirio at y canlynol (ymhlith pethau eraill)—
(a)oedran plentyn, neu
(b)cyfnod rhagnodedig o amser sy'n dechrau gyda digwyddiad rhagnodedig.
(6)Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—
(a)terfynu cyfnod o absenoldeb rhiant, neu
(b)diddymu cyfnod o absenoldeb rhiant.
(7)Caiff rheoliadau—
(a)(at ddibenion is-adran (2)), ragnodi pethau sydd i'w barnu neu beidio a'u barnu yn bethau sydd wedi eu gwneud, at ddibenion gofalu am blentyn;
(b)ei gwneud yn ofynnol bod absenoldeb rhiant yn cael ei gymryd fel un cyfnod o absenoldeb ym mhob achos neu mewn achosion penodedig;
(c)ei gwneud yn ofynnol bod absenoldeb rhiant yn cael ei gymryd fel cyfres o gyfnodau o absenoldeb ym mhob achos neu mewn achosion rhagnodedig;
(d)ei gwneud yn ofynnol bod yr holl gyfnod o absenoldeb rhiant neu rannau rhagnodedig ohono yn cael ei gymryd neu eu cymryd ar adegau rhagnodedig neu erbyn adegau rhagnodedig;
(e)caniatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad y mae cyfnod o absenoldeb rhiant yn dechrau;
(f)gwneud darpariaeth i awdurdod lleol ohirio cyfnod o absenoldeb rhiant y mae aelod yn dymuno ei gymryd;
(g)rhagnodi cyfnod lleiaf o absenoldeb neu gyfnod mwyaf o absenoldeb y caniateir ei gymryd fel rhan o gyfnod absenoldeb rhiant;
(h)rhagnodi uchafswm agregiad y cyfnodau o absenoldeb rhiant y caniateir eu cymryd yn ystod cyfnod rhagnodedig o amser.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 28 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)