RHAN 2ABSENOLDEB TEULUOL AR GYFER AELODAU AWDURDODAU LLEOL
26Absenoldeb mabwysiadydd
(1)
Mae gan aelod o awdurdod lleol hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb mabwysiadydd”) os yw'r aelod yn bodloni amodau rhagnodedig o ran mabwysiadu plentyn.
(2)
Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—
(a)
i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb mabwysiadydd mewn cysylltiad â phlentyn;
(b)
pryd y caniateir cymryd absenoldeb mabwysiadydd.
F1(3)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4)
Caiff rheoliadau ganiatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad pryd y bydd cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd yn dechrau.
(5)
Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—
(a)
terfynu cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd, neu
(b)
diddymu cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd.