RHAN 2ABSENOLDEB TEULUOL AR GYFER AELODAU AWDURDODAU LLEOL

25Absenoldeb newydd-anedig

(1)

Mae'r adran hon yn gymwys i aelod o awdurdod lleol sy'n bodloni amodau rhagnodedig—

(a)

o ran perthynas â phlentyn newydd-anedig neu blentyn a ddisgwylir, a

(b)

o ran perthynas â mam y plentyn.

(2)

Mae gan yr aelod hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb newydd-anedig”) at ddibenion—

(a)

gofalu am y plentyn, neu

(b)

cynorthwyo'r fam.

(3)

Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—

(a)

i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb newydd-anedig mewn cysylltiad â phlentyn;

(b)

pryd y caniateir cymryd absenoldeb newydd-anedig.

F1(4)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5)

Rhaid i reoliadau ei gwneud yn ofynnol i absenoldeb newydd-anedig gael ei gymryd cyn diwedd cyfnod rhagnodedig.

F2(6)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(7)

Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—

(a)

terfynu cyfnod o absenoldeb newydd-anedig, neu

(b)

diddymu cyfnod o absenoldeb newydd-anedig.

(8)

Caiff rheoliadau—

(a)

(at ddibenion is-adran (2)) ragnodi pethau sydd i'w barnu neu beidio a'u barnu yn bethau sydd wedi eu gwneud at ddibenion gofalu am blentyn neu gynorthwyo mam y plentyn;

(b)

caniatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad pryd y bydd cyfnod o absenoldeb newydd-anedig yn dechrau;

(c)

gwneud darpariaeth sy'n eithrio hawl i absenoldeb newydd-anedig mewn cysylltiad â phlentyn pan fo mwy nag un plentyn yn cael ei eni o ganlyniad i'r un beichiogrwydd;

(d)

gwneud darpariaeth ynghylch sut y ceir cymryd absenoldeb newydd-anedig.

F3(9)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(10)

Yn yr adran hon—

mae “plentyn newydd-anedig” (“newborn child”) yn cynnwys plentyn marw-anedig ar ôl 24 o wythnosau o feichiogrwydd;

F4...