RHAN 2LL+CABSENOLDEB TEULUOL AR GYFER AELODAU AWDURDODAU LLEOL

24Absenoldeb mamolaethLL+C

(1)Mae gan aelod o awdurdod lleol hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb mamolaeth”) os yw'r aelod yn bodloni amodau rhagnodedig o ran mamolaeth.

[F1(2)Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—

(a)i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb mamolaeth mewn cysylltiad â phlentyn;

(b)pryd y caniateir cymryd absenoldeb mamolaeth.]

F2(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F3(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5)Caiff rheoliadau ganiatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad pryd y bydd cyfnod o absenoldeb mamolaeth yn dechrau.

(6)Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff yr aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—

(a)terfynu cyfnod o absenoldeb mamolaeth, neu

(b)diddymu cyfnod o absenoldeb mamolaeth.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)