RHAN 2ABSENOLDEB TEULUOL AR GYFER AELODAU AWDURDODAU LLEOL
24Absenoldeb mamolaeth
(1)
Mae gan aelod o awdurdod lleol hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb mamolaeth”) os yw'r aelod yn bodloni amodau rhagnodedig o ran mamolaeth.
F1(2)
Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—
(a)
i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb mamolaeth mewn cysylltiad â phlentyn;
(b)
pryd y caniateir cymryd absenoldeb mamolaeth.
F2(3)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3(4)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(5)
Caiff rheoliadau ganiatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad pryd y bydd cyfnod o absenoldeb mamolaeth yn dechrau.
(6)
Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff yr aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—
(a)
terfynu cyfnod o absenoldeb mamolaeth, neu
(b)
diddymu cyfnod o absenoldeb mamolaeth.