RHAN 2ABSENOLDEB TEULUOL AR GYFER AELODAU AWDURDODAU LLEOL
23Yr hawl i absenoldeb teuluol
(1)
Caiff aelod o awdurdod lleol a chanddo hawl i gyfnod o absenoldeb teuluol fod yn absennol o gyfarfodydd o'r awdurdod yn ystod y cyfnod hwnnw o absenoldeb teuluol.
(2)
Os aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol yw'r aelod, caiff yr aelod fod yn absennol o gyfarfodydd o'r weithrediaeth yn ystod y cyfnod hwnnw o absenoldeb teuluol.
(3)
Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i reoliadau o dan y Rhan hon.
(4)
At ddibenion y Rhan hon, mae gan aelod hawl i gyfnod o absenoldeb teuluol os oes gan yr aelod hawl i gyfnod—
(a)
o absenoldeb mamolaeth (gweler adran 24),
(b)
o absenoldeb newydd-anedig (gweler adran 25),
(c)
o absenoldeb mabwysiadydd (gweler adran 26),
(d)
o absenoldeb mabwysiadu newydd (gweler adran 27), neu
(e)
o absenoldeb rhiant (gweler adran 28).