RHAN 1ATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL

PENNOD 1HYBU A CHEFNOGI AELODAETH O AWDURDODAU LLEOL

Arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr

2Cwblhau arolwg a chyhoeddi gwybodaeth

(1)

Rhaid i awdurdod lleol gwblhau ei arolwg a darparu'r wybodaeth sy'n cael ei chrynhoi ganddo i Weinidogion Cymru cyn pen chwe mis ar ôl dyddiad yr etholiad cyffredin y mae'n ymwneud ag ef.

(2)

Rhaid i awdurdod lleol ddarparu'r wybodaeth F1ar y ffurf neu yn y dull a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru.

(3)

Caiff awdurdod lleol gyhoeddi'r wybodaeth sy'n cael ei chrynhoi gan arolwg yn y dull y mae o'r farn ei bod yn briodol ei chyhoeddi, yn ddarostyngedig i is-adran (6).

(4)

Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

crynhoi'r wybodaeth a gânt oddi wrth awdurdodau lleol o dan yr adran hon, a

(b)

ei chyhoeddi cyn pen deuddeng mis ar ôl dyddiad yr etholiad cyffredin y mae'n ymwneud ag ef.

(5)

Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)

cyhoeddi gwybodaeth o dan is-adran (4)(b) yn y dull y maent o'r farn ei bod yn briodol ei chyhoeddi, yn ddarostyngedig i is-adran (6);

(b)

rhannu unrhyw wybodaeth a ddarperir iddynt o dan is-adran (1) ag unrhyw gorff sy'n cynrychioli buddiannau cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol neu gynghorau cymuned yng Nghymru.

(6)

Nid yw unrhyw wybodaeth a geir o dan adran 1 neu'r adran hon i'w chyhoeddi na'i rhannu ar unrhyw ffurf sydd, naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd ag unrhyw wybodaeth arall, yn datgelu pwy yw unrhyw unigolyn y mae'n ymwneud ag ef neu'n ei gwneud yn bosibl i'r unigolyn hwnnw gael ei adnabod.