2Cwblhau arolwg a chyhoeddi gwybodaethLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol gwblhau ei arolwg a darparu'r wybodaeth sy'n cael ei chrynhoi ganddo i Weinidogion Cymru cyn pen chwe mis ar ôl dyddiad yr etholiad cyffredin y mae'n ymwneud ag ef.
(2)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu'r wybodaeth [F1ar y ffurf neu yn y dull a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru].
(3)Caiff awdurdod lleol gyhoeddi'r wybodaeth sy'n cael ei chrynhoi gan arolwg yn y dull y mae o'r farn ei bod yn briodol ei chyhoeddi, yn ddarostyngedig i is-adran (6).
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)crynhoi'r wybodaeth a gânt oddi wrth awdurdodau lleol o dan yr adran hon, a
(b)ei chyhoeddi cyn pen deuddeng mis ar ôl dyddiad yr etholiad cyffredin y mae'n ymwneud ag ef.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)cyhoeddi gwybodaeth o dan is-adran (4)(b) yn y dull y maent o'r farn ei bod yn briodol ei chyhoeddi, yn ddarostyngedig i is-adran (6);
(b)rhannu unrhyw wybodaeth a ddarperir iddynt o dan is-adran (1) ag unrhyw gorff sy'n cynrychioli buddiannau cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol neu gynghorau cymuned yng Nghymru.
(6)Nid yw unrhyw wybodaeth a geir o dan adran 1 neu'r adran hon i'w chyhoeddi na'i rhannu ar unrhyw ffurf sydd, naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd ag unrhyw wybodaeth arall, yn datgelu pwy yw unrhyw unigolyn y mae'n ymwneud ag ef neu'n ei gwneud yn bosibl i'r unigolyn hwnnw gael ei adnabod.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 2(2) wedi eu hamnewid (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 25(3), 72(2)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
