RHAN 10CYFFREDINOL
175Dehongli
Yn y Mesur hwn—
mae'r term “addasiadau” (“modifications”) yn cynnwys diwygiadau, diddymiadau a dirymiadau (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt);
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru;
F1ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys y canlynol—
(a)
deddfiad pryd bynnag y bydd wedi ei basio neu wedi ei wneud,
(b)
deddfiad a gynhwysir yn y Mesur hwn, a
(c)
darpariaeth a gynhwysir mewn is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978);
ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw rhagnodedig mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.