Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

175DehongliLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Yn y Mesur hwn—

  • mae'r term “addasiadau” (“modifications”) yn cynnwys diwygiadau, diddymiadau a dirymiadau (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt);

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru;

  • [F1ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;]

  • mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys y canlynol—

    (a)

    deddfiad pryd bynnag y bydd wedi ei basio neu wedi ei wneud,

    (b)

    deddfiad a gynhwysir yn y Mesur hwn, a

    (c)

    darpariaeth a gynhwysir mewn is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978);

  • ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw rhagnodedig mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 175 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)