xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Yn y Mesur hwn—
mae'r term “addasiadau” (“modifications”) yn cynnwys diwygiadau, diddymiadau a dirymiadau (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt);
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru;
[F1ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;]
mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys y canlynol—
deddfiad pryd bynnag y bydd wedi ei basio neu wedi ei wneud,
deddfiad a gynhwysir yn y Mesur hwn, a
darpariaeth a gynhwysir mewn is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978);
ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw rhagnodedig mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 175 wedi eu mewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 41
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 175 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)