RHAN 10CYFFREDINOL
174Canllawiau a chyfarwyddiadau
(1)
Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi canllawiau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer i amrywio neu ddirymu'r canllawiau a roddwyd.
(2)
Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer i amrywio neu ddirymu'r cyfarwyddiadau a roddwyd.
(3)
Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
(a)
i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dibenion gwahanol, neu ardaloedd daearyddol gwahanol;
(b)
i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol.
(4)
Nid yw is-adrannau (1) i (3) yn cyfyngu ar y pwerau o dan y Mesur hwn i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau.