RHAN 8AELODAU: TALIADAU A PHENSIYNAU
Adroddiadau gan y Panel
152Rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau
(1)
Os yw'r Panel yn cyhoeddi adroddiad, rhaid iddo hysbysu—
(a)
unrhyw bersonau y mae o'r farn ei bod yn debygol y bydd yr adroddiad yn effeithio arnynt, a
(b)
unrhyw ddarlledwyr ac unrhyw aelodau o'r wasg y mae o'r farn ei bod yn briodol eu hysbysu.
(2)
Rhaid i'r Panel sicrhau bod ei adroddiadau ar gael mewn modd rhesymol i bersonau yn gyffredinol.
(3)
Yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) a (2), caiff y Panel benderfynu sut i roi cyhoeddusrwydd i'w adroddiadau.
(4)
Yn yr adran hon, mae “adroddiad” (ac eithrio mewn perthynas ag is-adran (1)(b)) yn cynnwys drafft o adroddiad; ac ystyr “cyhoeddi”, mewn perthynas â drafft, yw ei anfon at y personau y mae'n ofynnol anfon drafft atynt o dan 146 neu 147.