Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

[F1152Rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw'r Panel yn cyhoeddi adroddiad, rhaid iddo hysbysu—

(a)unrhyw bersonau y mae o'r farn ei bod yn debygol y bydd yr adroddiad yn effeithio arnynt, a

(b)unrhyw ddarlledwyr ac unrhyw aelodau o'r wasg y mae o'r farn ei bod yn briodol eu hysbysu.

(2)Rhaid i'r Panel sicrhau bod ei adroddiadau ar gael mewn modd rhesymol i bersonau yn gyffredinol.

(3)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) a (2), caiff y Panel benderfynu sut i roi cyhoeddusrwydd i'w adroddiadau.

(4)Yn yr adran hon, mae “adroddiad” (ac eithrio mewn perthynas ag is-adran (1)(b)) yn cynnwys drafft o adroddiad; ac ystyr “cyhoeddi”, mewn perthynas â drafft, yw ei anfon at y personau y mae'n ofynnol anfon drafft atynt o dan 146 neu 147.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 152 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I2A. 152 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(l)

I3A. 152 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(g)