RHAN 1LL+CATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL

PENNOD 2LL+CGWASANAETHAU DEMOCRATAIDD AWDURDOD LLEOL

15Cynnal cyfarfodydd: pa mor amlLL+C

(1)Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.

(2)Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd i awdurdod lleol gyfarfod hefyd—

(a)os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai'r pwyllgor gyfarfod, neu

(b)os yw traean o leiaf o aelodau'r pwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy gyfrwng un neu ragor o hysbysiadau ysgrifenedig a roddir i'r person sy'n cadeirio'r pwyllgor.

[F1(2A)Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, nid yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod o’r pwyllgor at ddibenion is-adran (2)(b).]

(3)Mae dyletswydd ar y person sy'n cadeirio pwyllgor gwasanaethau democrataidd i sicrhau bod cyfarfodydd y pwyllgor yn cael eu cynnal fel y mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol.

(4)Nid yw'r adran hon yn atal pwyllgor gwasanaethau democrataidd rhag cyfarfod ac eithrio fel y mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 15 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)