RHAN 1ATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL
PENNOD 2GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD AWDURDOD LLEOL
15Cynnal cyfarfodydd: pa mor aml
(1)
Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.
(2)
Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd i awdurdod lleol gyfarfod hefyd—
(a)
os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai'r pwyllgor gyfarfod, neu
(b)
os yw traean o leiaf o aelodau'r pwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy gyfrwng un neu ragor o hysbysiadau ysgrifenedig a roddir i'r person sy'n cadeirio'r pwyllgor.
F1(2A)
Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, nid yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod o’r pwyllgor at ddibenion is-adran (2)(b).
(3)
Mae dyletswydd ar y person sy'n cadeirio pwyllgor gwasanaethau democrataidd i sicrhau bod cyfarfodydd y pwyllgor yn cael eu cynnal fel y mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol.
(4)
Nid yw'r adran hon yn atal pwyllgor gwasanaethau democrataidd rhag cyfarfod ac eithrio fel y mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol.