C1RHAN 8F1...TALIADAU A PHENSIYNAU

Annotations:
Amendments (Textual)
Modifications etc. (not altering text)
C1

Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd ag addasiadau) (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 25(3)(4), 46(1)

Adroddiadau gan y Panel

I1I2I3149Cyfarwyddiadau i amrywio adroddiadau drafft

1

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r Panel i ailystyried darpariaeth yn yr adroddiad drafft.

2

Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu—

a

y ddarpariaeth,

b

y rheswm dros roi'r cyfarwyddyd, ac

c

y dyddiad erbyn pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r Panel ymateb.

3

O ran y Panel—

a

rhaid iddo ymateb i'r cyfarwyddyd heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir at ddibenion is-adran (2)(c);

b

ni chaiff gyhoeddi'r adroddiad cyn iddo fod wedi ymateb i'r cyfarwyddyd.

4

Os yw'r Panel yn penderfynu peidio ag amrywio'r drafft yn unol â'r cyfarwyddyd, rhaid iddo bennu yn ei ymateb y rheswm dros ei benderfyniad.