RHAN 8AELODAU: TALIADAU A PHENSIYNAU
Prif swyddogaethau'r Panel
142Swyddogaethau sy'n ymwneud â thaliadau i aelodau
(1)
Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac ar gyfer pob blwyddyn ariannol ddilynol, caiff y Panel benderfynu ar y materion perthnasol—
(a)
y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliad i aelodau o'r awdurdod amdanynt;
(b)
yr awdurdodir awdurdod perthnasol i wneud taliad i aelodau o'r awdurdod amdanynt.
(2)
Dyma yw materion perthnasol—
(a)
materion sy'n ymwneud â busnes swyddogol aelodau o awdurdodau perthnasol;
(b)
cyfnodau o absenoldeb teuluol o dan Ran 2.
(3)
Wedi iddo arfer y pŵer hwnnw, rhaid i'r Panel osod un o'r canlynol ar gyfer pob mater perthnasol—
(a)
y swm y mae'n rhaid i awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o'r awdurdod;
(b)
yr uchafswm y caiff awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o'r awdurdod.
(4)
Ar ôl penderfynu'r materion perthnasol y ceir awdurdodi neu ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliadau amdanynt o dan is-adran (1) a phennu'r swm neu'r uchafswm ar gyfer pob mater o dan is-adran (3), caiff y Panel benderfynu na chaniateir talu taliadau mewn cysylltiad â mater neu faterion penodol i fwy na chyfran benodedig o'r aelodau o awdurdod.
(5)
Ni chaiff y gyfran a bennir gan y Panel yn unol ag is-adran (4) fod yn fwy na hanner cant y cant oni fydd cydsyniad Gweinidogion Cymru wedi ei sicrhau.
(6)
Caiff y Panel osod—
(a)
y ganran uchaf neu'r gyfradd uchaf arall y bydd gan awdurdod perthnasol hawl i'w defnyddio i addasu, ar gyfer blwyddyn ariannol, y symiau a oedd ag iddynt effaith ar gyfer y materion perthnasol yn y flwyddyn ariannol flaenorol;
(b)
mynegrif y bydd gan awdurdod perthnasol hawl i'w ddefnyddio i addasu, ar gyfer blwyddyn ariannol, y symiau a oedd ag iddynt effaith ar gyfer y materion perthnasol hynny yn y flwyddyn ariannol flaenorol ag y bydd y Panel yn penderfynu.
(7)
Caniateir arfer y pwerau o dan is-adran (6) er mwyn—
(a)
gosod cyfradd a mynegrif mewn perthynas â'r un mater;
(b)
gosod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol mewn perthynas â materion gwahanol.
(8)
Wrth osod swm o dan is-adran (3), gwneud penderfyniad o dan is-adran (4) neu osod cyfradd neu fynegrif o dan is-adran (6), rhaid i'r Panel ystyried beth yn ei farn ef fydd effaith ariannol debygol gwneud hynny ar awdurdodau perthnasol.
(9)
Caiff y Panel wneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (1), gosod symiau gwahanol o dan is-adran (3), gwneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (4) neu osod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol o dan is-adran (6) mewn perthynas ag awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad.
(10)
At ddibenion is-adran (2) mae mater yn ymwneud â busnes swyddogol aelod o awdurdod perthnasol os yw'n fater y mae aelod yn ymgymryd ag ef—
(a)
fel aelod o awdurdod perthnasol, neu
(b)
fel aelod o gorff y penodir yr aelod yn aelod ohono gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy'n cynnwys yr awdurdod perthnasol, neu yn sgil cael ei enwebu gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy'n cynnwys yr awdurdod perthnasol.