RHAN 7CYMUNEDAU A CHYNGHORAU CYMUNED
PENNOD 8CYTUNDEBAU SIARTER ENGHREIFFTIOL RHWNG AWDURDODAU LLEOL A CHYNGHORAU CYMUNED
133Ymgynghori
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gwneud gorchymyn o dan adran 130(1), ymgynghori—
(a)
ag unrhyw gyrff sy'n gynrychioliadol o awdurdodau lleol a chynghorau cymuned ac y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy, a
(b)
ag unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(2)
Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 131(1), ymgynghori â'r awdurdod a'r cyngor y mae'r cyfarwyddyd yn ymwneud â hwy.