131Cyfarwyddiadau sy'n gwneud mabwysiadu cytundeb siarter enghreifftiol yn ofynnolLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy gyfarwyddyd, ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol a chyngor cymuned ar gyfer cymuned neu gymunedau yn ardal yr awdurdod fabwysiadu cytundeb siarter enghreifftiol a osodir mewn gorchymyn o dan adran 130(1).
(2)Yn is-adran (1), ystyr “mabwysiadu” yw penderfynu, yn unol ag unrhyw weithdrefn a bennir yn y cyfarwyddyd, arfer swyddogaethau, neu geisio cytundeb ynghylch sut i arfer swyddogaethau, yn unol â'r canlynol—
(a)holl ddarpariaethau'r cytundeb siarter enghreifftiol, neu
(b)y darpariaethau hynny a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1)—
(a)ymwneud â'r holl gynghorau cymuned ar gyfer cymunedau yn ardal yr awdurdod lleol, neu ag unrhyw un neu ragor ohonynt, a
(b)os yw'r cyfarwyddyd yn ymwneud â mwy nag un cyngor cymuned, wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â chynghorau gwahanol.
(4)Gellir gorfodi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) drwy orchymyn mynnu ar gais Gweinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 131 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(c)