RHAN 7CYMUNEDAU A CHYNGHORAU CYMUNED
PENNOD 7GRANTIAU I GYNGHORAU CYMUNED
129Pŵer Gweinidogion Cymru i dalu grantiau i gynghorau cymuned
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant i gyngor cymuned tuag at wariant a dynnir ganddo neu sydd i'w dynnu ganddo.
(2)
Mae swm grant o dan yr adran hon a'r dull o'i dalu i fod yn swm ac yn ddull a benderfynir gan Weinidogion Cymru.
(3)
Caniateir talu grant o dan yr adran hon o dan yr amodau hynny a benderfynir gan y person sy'n ei dalu.
(4)
Caiff amodau o dan is-adran (3) gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—
(a)
darpariaeth o ran defnyddio'r grant;
(b)
darpariaeth o ran yr amgylchiadau y mae'n rhaid ad-dalu oddi tanynt y grant cyfan neu ran ohono.