RHAN 7CYMUNEDAU A CHYNGHORAU CYMUNED
PENNOD 6PWERAU CYNGHORAU CYMUNED I HYBU LLESIANT
127Addasiadau i ddeddfiadau sy'n atal neu'n rhwystro cyngor cymuned rhag arfer ei bwerau llesiant
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad os ydynt o'r farn bod y deddfiad yn atal neu'n rhwystro'r cynghorau cymuned rhag arfer eu pwerau o dan adran 2(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (hybu llesiant).
(2)
Caniateir arfer y pŵer o dan is-adran (1)—
(a)
mewn perthynas â phob cyngor cymuned,
(b)
mewn perthynas â chynghorau cymuned neilltuol, neu
(c)
mewn perthynas â disgrifiadau neilltuol o gyngor cymuned.
(3)
Mae'r pŵer o dan is-adran (1) yn cynnwys pŵer i wneud addasiadau i ddeddfiad am gyfnod neilltuol.