RHAN 1ATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL
PENNOD 2GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD AWDURDOD LLEOL
12Aelodaeth
(1)
Mae awdurdod lleol i benodi aelodau o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd.
(2)
Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—
(a)
bod pob aelod o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelod o'r awdurdod;
(b)
(c)
yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru), nad yw'r arweinydd gweithrediaeth yn aelod o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd.
(3)
Ni fydd penodi person yn aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd yn cael unrhyw effaith os bydd aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2) yn union ar ôl ei benodi (p'un ai yn rhinwedd y penodiad ai peidio).
(4)
Mewn achos pan fo un person neu ragor, ar adeg neilltuol, i'w wneud neu i'w gwneud yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu i beidio â bod yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor gwasanaethau democrataidd, mae'r newidiadau hynny yn yr aelodaeth i'w hystyried wrth benderfynu a fyddai aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2).
(5)
Mae pwyllgor gwasanaethau democrataidd i awdurdod lleol i'w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.
F3(6)
Os penodir dau neu ragor o aelodau awdurdod lleol i’r weithrediaeth i rannu swydd, caniateir penodi mwy nag un o’r aelodau hynny i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yr awdurdod (ac os y’u penodir hwy felly, gyda’i gilydd maent yn cyfrif fel un aelod gweithrediaeth at ddibenion is-adran (2)(b)).