RHAN 7CYMUNEDAU A CHYNGHORAU CYMUNED

PENNOD 4PENODI CYNRYCHIOLWYR IEUENCTID CYMUNEDOL

118Penodi cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol gan gynghorau cymuned

(1)

Caiff cyngor cymuned benodi dim mwy na dau unigolyn i weithredu ar unrhyw un adeg fel cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 119).

(2)

At ddibenion is-adran (1) unigolyn yw “cynrychiolydd ieuenctid cymunedol”—

(a)

sydd dros 15 oed ond heb gyrraedd 26 oed, a

(b)

y mae'r cyngor cymuned o'r farn ei fod yn addas i weithredu fel cynrychiolydd cymunedol, sydd i gynrychioli buddiannau'r unigolion hynny sy'n byw, yn gweithio neu'n cael addysg neu hyfforddiant yn ardal y gymuned ac sydd heb gyrraedd 26 oed.

(3)

Mae cynrychiolydd ieuenctid i ddal swydd a'i gadael yn unol â thelerau penodi'r cynrychiolydd.

(4)

Ond bydd penodiad cynrychiolydd ieuenctid yn dod i ben os bydd y cynrychiolydd yn cyrraedd 26 oed.