RHAN 1LL+CATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL

PENNOD 1LL+CHYBU A CHEFNOGI AELODAETH O AWDURDODAU LLEOL

Arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyrLL+C

1Dyletswydd i gynnal arolwgLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â [F1chyfarwyddyd] o dan yr adran hon, gynnal arolwg—

(a)o gynghorwyr yn ei ardal, a

(b)o ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol i swydd cynghorydd yn ei ardal.

(2)Rhaid i awdurdod lleol gynnal arolwg [F2, neu drefnu i gynnal arolwg, mewn perthynas â phob] etholiad cyffredin—

(a)ar gyfer cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol, a

(b)ar gyfer cyngor cymuned yn ardal yr awdurdod lleol.

[F3(3)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol sydd—

(a)yn pennu’r cwestiynau y mae rhaid eu gofyn mewn arolwg;

(b)yn pennu gofynion ynghylch—

(i)ffurf yr arolwg;

(ii)sut y mae’r arolwg i’w gynnal;

(iii)crynhoi gwybodaeth o’r arolwg.]

[F4(3A)Yn achos etholiad cyffredin caniateir i arolwg gael ei gynnal—

(a)yn llwyr ar ôl yr etholiad cyffredin, neu

(b)drwy ofyn i’r ymgeiswyr i gael eu hethol i swydd cynghorydd [F5ymateb i’r arolwg] cyn yr etholiad cyffredin a chrynhoi’r wybodaeth a ddarparwyd wedi hynny.]

[F6(3B)Caiff awdurdod lleol gynnwys cwestiynau mewn arolwg, neu drefnu i gwestiynau gael eu cynnwys mewn arolwg, yn ychwanegol at y cwestiynau sy’n ofynnol drwy gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.]

(4)Mae'r cwestiynau y caniateir eu [F7pennu mewn cyfarwyddyd] o dan is-adran (3) yn cynnwys cwestiynau (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ynglŷn â'r unigolyn y maent wedi eu cyfeirio ato ynghylch—

(a)rhywedd;

(b)cyfeiriadedd rhywiol;

(c)iaith;

(d)hil;

(e)oedran;

(f)anabledd;

(g)crefydd neu gred;

(h)iechyd;

(i)addysg a chymwysterau;

(j)cyflogaeth;

(k)gwaith fel cynghorydd.

(5)Nid oes dim yn yr adran hon sy'n gosod dyletswydd ar [F8unrhyw unigolyn] i ddarparu unrhyw wybodaeth.

F9(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(7)Yn yr adran hon—

Diwygiadau Testunol

F2Geiriau yn a. 1(2) wedi eu hamnewid (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 42(2), 46(1)

F8Geiriau yn a. 1(5) wedi eu hamnewid (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 42(4), 46(1)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)