ATODLEN 1NEWID TREFNIADAU AMGEN YN DREFNIADAU GWEITHREDIAETH

(a gyflwynwyd gan adran 35)

RHAN 1DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Rhagymadrodd

1

Mae'r Atodlen hon yn gymwys i awdurdod lleol os yw adran 35 yn ei gwneud yn ofynnol iddo newid trefniadau amgen yn drefniadau gweithrediaeth.

Annotations:
Commencement Information

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Cynigion ar gyfer symud at weithredu trefniadau gweithrediaeth

2

(1)

Rhaid i'r awdurdod lunio cynigion i newid trefniadau amgen yn drefniadau gweithrediaeth, a rhaid iddo eu cymeradwyo drwy benderfyniad.

(2)

Wrth lunio'r cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried i ba raddau y bydd y cynigion yn debygol, os rhoddir hwy ar waith, o gynorthwyo i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd y mae swyddogaethau'r awdurdod yn cael eu harfer, gan roi sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

(3)

Rhaid i'r awdurdod lleol anfon at Weinidogion Cymru—

(a)

copi o'r cynigion a gymeradwywyd ganddo, a

(b)

(gyda'r copi o'r cynigion) datganiad sy'n disgrifio'r rhesymau pam bod yr awdurdod o'r farn y byddai ei gynigion yn debygol, pe bydden yn cael eu rhoi ar waith, o sicrhau bod penderfyniadau'r awdurdod yn cael eu gwneud mewn ffordd effeithlon, dryloyw ac atebol.

(4)

Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraffau (1) a (3) o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y daw adran 35 i rym.

Annotations:
Commencement Information

I2Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Cynnwys cynigion

3

Rhaid i gynigion awdurdod lleol gynnwys pob un o'r canlynol—

(a)

datganiad ynghylch i ba raddau y mae'r weithrediaeth i fod yn gyfrifol am swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 13(3)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 o dan y trefniadau gweithrediaeth arfaethedig,

(b)

amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith, ac

(c)

manylion unrhyw drefniadau trosiannol sy'n angenrheidiol ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith.

Annotations:
Commencement Information

I3Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Refferenda

4

(1)

Os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, rhaid i'r cynigion ddarparu bod y newid i drefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.

(2)

Os gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru) yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, ni chaiff y cynigion ddarparu bod y newid i drefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.

(3)

Mae adran 45 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (darpariaethau mewn cysylltiad â refferenda) yn cael effaith fel pe bai is-adran (9) yn cynnwys cyfeiriad at refferendwm ar newid trefniadau amgen yn drefniadau gweithrediaeth yn unol ag adran 35.

Annotations:
Commencement Information

I4Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Yr amserlen ar gyfer rhoi ar waith newid i weithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru)

5

(1)

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gynigion awdurdod lleol os gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru) yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth.

(2)

Rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith fod yn un sy'n sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gwneud y newid i drefniadau gweithrediaeth cyn pen y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r awdurdod lleol yn anfon copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru, ac heb fod yn hwyrach na hynny.

Annotations:
Commencement Information

I5Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Yr amserlen ar gyfer rhoi ar waith newid i weithrediaeth maer a chabinet

6

(1)

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gynigion awdurdod lleol os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth (a'i bod yn unol â hynny'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth mewn refferendwm).

(2)

Rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith gydymffurfio ag is-baragraffau (3) a (4).

(3)

Rhaid i'r amserlen fod yn un sy'n sicrhau y bydd yr awdurdod lleol yn cynnal y refferendwm o fewn y cyfnod—

(a)

sy'n dechrau ddeufis, ac

(b)

sy'n dod i ben chwe mis,

ar ôl y diwrnod y mae'r awdurdod lleol yn anfon y copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru.

(4)

Os canlyniad y refferendwm yw cymeradwyo'r newid i drefniadau gweithrediaeth, rhaid i'r amserlen fod yn un sy'n sicrhau y bydd yr awdurdod lleol yn gwneud y newid hwnnw o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y cynhelir y refferendwm.

Annotations:
Commencement Information

I6Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Cyhoeddusrwydd i gynigion

7

(1)

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i awdurdod lleol sydd wedi cymeradwyo cynigion drwy benderfyniad.

(2)

Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig ar gael yn ei brif swyddfa i'w harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol.

(3)

Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—

(a)

sy'n datgan bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu gweithredu'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig,

(b)

os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, sy'n datgan—

(i)

ei bod yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth mewn refferendwm, a

(ii)

dyddiad y refferendwm

(c)

sy'n datgan y dyddiad y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau gweithredu'r trefniadau hynny,

(d)

sy'n disgrifio prif nodweddion y trefniadau hynny,

(e)

sy'n datgan bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau hynny ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod lleol i'w harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar yr adegau a bennir yn yr hysbysiad, ac

(f)

sy'n rhoi cyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod lleol.

(4)

Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adrannau (2) a (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo basio'r penderfyniad yn cymeradwyo'r cynigion.

Annotations:
Commencement Information

I7Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Rhoi cynigion ar waith

8

(1)

Rhaid i awdurdod lleol roi ei gynigion ar waith yn unol â'r amserlen sydd wedi ei chynnwys yn y cynigion.

(2)

Ond o ran y ffurf arfaethedig ar weithrediaeth—

(a)

os gweithrediaeth maer a chabinet yw, a

(b)

os nad yw'n cael ei chymeradwyo n y refferendwm ar y newid i'r ffurf honno ar weithrediaeth,

ni chaniateir i'r awdurdod lleol roi'r newid ar waith.

Annotations:
Commencement Information

I8Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

RHAN 2DARPARIAETHAU ERAILL SY'N GYMWYS PAN FO REFFERENDWM YN OFYNNOL

Cynigion amlinellol wrth gefn rhag ofn y gwrthodir newid mewn refferendwm

9

(1)

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i awdurdod lleol os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth (a'i bod yn unol â hynny'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth mewn refferendwm).

(2)

Rhaid i'r awdurdod lleol lunio amlinelliad o'r cynigion wrth gefn (“cynigion amlinellol wrth gefn”) y mae'n bwriadu eu rhoi ar waith os gwrthodir y cynigion i newid i weithrediaeth maer a chabinet mewn refferendwm, a rhaid iddo'i gymeradwyo drwy benderfyniad.

(3)

Cynigion yw cynigion wrth gefn ar gyfer gwneud newid i drefniadau gweithrediaeth sy'n darparu ar gyfer gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru).

(4)

Mae paragraff 2(2) yn gymwys i'r cynigion amlinellol wrth gefn fel y mae'n gymwys i gynigion o dan y paragraff hwnnw.

(5)

Rhaid i'r cynigion amlinellol wrth gefn gynnwys amserlen mewn cysylltiad â rhoi ar waith (yn unol â pharagraff 11) gynigion manwl wrth gefn os digwydd na chymeradwyir newid i weithrediaeth maer a chabinet yn y refferendwm.

(6)

Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (2) ar yr adeg y mae'n cydymffurfio â pharagraff 2(1).

(7)

Rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi o'r cynigion amlinellol wrth gefn y mae wedi eu cymeradwyo at Weinidogion Cymru.

(8)

Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (7) ar yr adeg y mae'n cydymffurfio â pharagraff 2(3).

Annotations:
Commencement Information

I9Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Camau gweithredu os gwrthodir newid mewn refferendwm

10

(1)

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i awdurdod lleol—

(a)

os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, a

(b)

os nad yw'r ffurf arfaethedig yn cael ei chymeradwyo yn y refferendwm ar newid i'r ffurf honno ar weithrediaeth.

(2)

Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—

(a)

sy'n crynhoi cynigion yr awdurdod lleol a oedd yn destun y refferendwm,

(b)

sy'n datgan bod refferendwm ar gynigion yr awdurdod lleol wedi gwrthod y cynigion hynny,

(c)

sy'n nodi cynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol, a

(d)

sy'n datgan bod yr awdurdod, o dan y cynigion amlinellol wrth gefn, yn bwriadu gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru).

(3)

Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (2) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y refferendwm.

(4)

Rhaid i'r awdurdod lleol lunio cynigion manwl wrth gefn sy'n seiliedig ar y cynigion amlinellol wrth gefn, a rhaid iddo eu cymeradwyo drwy benderfyniad.

(5)

Mae paragraffau 2(2), 3 a 7(2) a (3) yn gymwys i'r cynigion manwl wrth gefn fel y maent yn gymwys i gynigion o dan baragraff 2.

(6)

Rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi o'r cynigion manwl wrth gefn at Weinidogion Cymru.

(7)

Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (6) o fewn y cyfnod o dau fis sy'n dechrau ar ddiwrnod y refferendwm.

Annotations:
Commencement Information

I10Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Yr amserlen ar gyfer rhoi ar waith gynigion manwl wrth gefn

11

Mae'n rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi ar waith y cynigion manwl wrth gefn fod yn un sy'n sicrhau bod yr awdurdod lleol yn newid i weithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru) cyn pen y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r awdurdod lleol yn anfon copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru, a heb fod yn hwyrach na hynny.

Annotations:
Commencement Information

I11Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Rhoi ar waith gynigion manwl wrth gefn

12

Rhaid i'r awdurdod lleol roi ar waith ei gynigion manwl wrth gefn yn unol â'r amserlen sydd wedi ei chynnwys yn y cynigion.

Annotations:
Commencement Information

I12Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

RHAN 3AMRYWIOL

Methu â rhoi'r gorau i weithredu trefniadau amgen

13

(1)

Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru y bydd awdurdod lleol yn methu â rhoi'r gorau i weithredu trefniadau amgen a dechrau gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn unol ag adran 35.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddarparu bod yr awdurdod lleol—

(a)

yn rhoi'r gorau i weithredu trefniadau amgen, a

(b)

yn dechrau gweithredu trefniadau gweithrediaeth ar ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru (“trefniadau gweithrediaeth gosodedig”).

(3)

Mae trefniadau gweithrediaeth gosodedig i'w trin fel pe baent wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol ei hun.

(4)

Mae paragraffau 7(2) a (3)(c) i (e) yn gymwys i drefniadau gweithrediaeth gosodedig fel y maent yn gymwys i drefniadau gweithrediaeth mewn cynigion o dan baragraff 2.

(5)

Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio â'r darpariaethau hynny ym mharagraff 7 (fel y maent yn gymwys yn rhinwedd is-baragraff (4)) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru wneud y gorchymyn sy'n darparu ar gyfer y trefniadau gweithrediaeth gosodedig.

Annotations:
Commencement Information

I13Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Y trefniadau i'w trin fel pe baent yn cael eu gweithredu ar ôl pasio penderfyniad

14

Mae trefniadau gweithrediaeth sy'n dod yn weithredol yn unol ag adran 35 a'r Atodlen hon i'w trin fel pe baent yn cael eu gweithredu ar ôl i'r awdurdod lleol basio penderfyniad o dan adran 38.

Annotations:
Commencement Information

I14Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Dehongli

15

Yn yr Atodlen hon—

ystyr “cynigion” (“proposals”) (ac eithrio mewn cysylltiad â chynigion wrth gefn) yw cynigion o dan baragraff 2;

ystyr “cynigion amlinellol wrth gefn” (“outline fall-back proposals”) yw cynigion o dan baragraff 9(2);

ystyr “cynigion manwl wrth gefn” (“detailed fall-back proposals”) yw cynigion o dan baragraff 10(4); mae i'r ymadrodd “cynigion wrth gefn” (“fall-back proposals”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 9(3);

ystyr “ffurf arfaethedig ar weithrediaeth” (“proposed form of executive”) yw'r ffurf ar weithrediaeth y mae awdurdod lleol, mewn cynigion o dan baragraff 2, neu mewn cynigion wrth gefn, yn bwriadu dechrau ei gweithredu;

ystyr “newid i drefniadau gweithrediaeth” (“change to executive arrangements”) yw'r newid i drefniadau gweithrediaeth a gynigir mewn cynigion neu mewn cynigion wrth gefn.

Annotations:
Commencement Information

I15Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

F1ATODLEN 2Y PANEL

(a gyflwynwyd gan adran 141(2))

Aelodaeth

F11

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Deiliadaeth

F12

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cyfarfodydd

F13

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gwybodaeth

F14

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Treuliau, cymorth gweinyddol etc.

F15

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

ATODLEN 3TALIADAU A PHENSIYNAU: MÅN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

(a gyflwynwyd gan adran 160)

Deddf Llywodraeth Leol 1972

1

(1)

Diwygir Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel a ganlyn.

(2)

Yn adran 94(5) (lwfansau llywodraeth leol i beidio â chyfrif fel buddiant ariannol at ddibenion gwahardd pleidleisio pan fo gan aelod fuddiant ariannol), ar ôl “1989” mewnosoder “or under any provision of Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

(3)

Mae adrannau 173 i 178 (lwfansau i aelodau) yn peidio â chael effaith.

(4)

Yn adran 246(16) (cymhwyso darpariaethau ynghylch lwfansau awdurdodau lleol i ymddiriedolwyr siarter), ar ôl “above” mewnosoder “and (in relation to Wales) Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

(5)

Yn adran 249(4)(b) (lwfans nad yw'n daladwy i henaduriaid mygedol am fod yn bresennol mewn seremonïau dinesig), ar y diwedd mewnosoder “or Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

Annotations:
Commencement Information

I16Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989

2

(1)

Diwygir adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynlluniau lwfansau i aelodau o awdurdodau lleol) fel a ganlyn.

(2)

Hepgorer is-adrannau (1) i (3), (3B), (3D), (3E) a (3G) i (6).

(3)

Yn lle is-adran (3A) (pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n galluogi awdurdodau lleol i benderfynu ar hawl i arian rhodd), rhodder—

“(3A)

Regulations may be made by the Welsh Ministers to make provision for or in connection with—

(a)

enabling county councils or county borough councils to determine which members of the council are to be entitled to gratuities,

(b)

treating such payments relating to relevant matters (within the meaning of Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011) as may be specified in the regulations as amounts in respect of which such gratuities are payable.”.

Annotations:
Commencement Information

I17Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Deddf yr Amgylchedd 1995

3

Ym mharagraff 11 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (cymhwyso darpariaethau am lwfansau awdurdodau lleol i awdurdodau Parciau Cenedlaethol), hepgorer is-baragraffau (1) a (2).

Annotations:
Commencement Information

I18Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998

4

(1)

Diwygir Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel a ganlyn.

(2)

Yn adran 94(5C) (pŵer i gymhwyso darpariaethau am lwfansau awdurdodau lleol i banelau apelau derbyn), ar ôl “1972” mewnosoder “or (in relation to Wales) Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

(3)

Yn adran 95(3B) (pŵer i gymhwyso darpariaethau am lwfansau awdurdodau lleol i banelau apelau derbyn yn achos disgyblion sydd wedi eu gwahardd o ddwy neu ragor o ysgolion), ar ôl “1972” mewnosoder “or (in relation to Wales) Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

Annotations:
Commencement Information

I19Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Deddf Llywodraeth Leol 2000

5

(1)

Diwygir Deddf Llywodraeth Leol 2000 fel a ganlyn.

(2)

Yn adran 99(1) (pŵer i wneud darpariaeth ynghylch lwfansau etc. mewn rheoliadau am bensiynau llywodraeth leol), ar y diwedd mewnosoder “; and for the purposes of the application of this subsection to Wales, the reference to pensions and allowances is to be ignored.”

(3)

Mae adran 100 (pŵer Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch lwfansau awdurdodau lleol) yn peidio â chael effaith.

Annotations:
Commencement Information

I20Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Deddf Addysg 2002

6

Yn adran 52(6) o Ddeddf Addysg 2002 (pŵer i gymhwyso darpariaethau ynghylch lwfansau awdurdodau lleol i banelau sy'n ymdrin â gwahardd disgyblion), ar ôl “1972 (c. 70)” mewnosoder “or (in relation to Wales) Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

Annotations:
Commencement Information

I21Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Deddf Addysg a Sgiliau 2008

7

Yn adran 48(4) o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (pŵer i gymhwyso darpariaethau ynghylch lwfansau awdurdodau lleol i banelau presenoldeb), ar ôl “1972 (c. 70)” mewnosoder “or (in relation to Wales) Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

Annotations:
Commencement Information

I22Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

ATODLEN 4DIDDYMIADAU A DIRYMIADAU

(a gyflwynwyd gan adran 176(2))

RHAN A:ATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL (RHAN 1 O'R MESUR)

Annotations:
Commencement Information

I23Atod. 4 Pt. A ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Cyfeirnod

Graddau'r diddymiad

Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989

Yn adran 2(1)(f), y gair “and”

RHAN B:TREFNIADAU LLYWODRAETHU SYDD AR GAEL (RHAN 3 O'R MESUR)

Annotations:
Commencement Information

I24Atod. 4 Pt. B mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(d)

Cyfeirnod

Graddau'r diddymiad neu'r dirymiad

Deddf Llywodraeth Leol 1972

Yn adran 21(1A), y geiriau “or a mayor and council manager executive”.

Yn adran 22(4A), y geiriau “or a mayor and council manager executive”.

Yn adran 25A(3), y geiriau “or a mayor and council manager executive”.

Yn adran 70(3), y geiriau “or alternative arrangements”.

Yn adran 270(1)—

  1. (a)

    y diffiniad o “alternative arrangements”;

  2. (b)

    yn y diffiniad o ““mayor and cabinet executive” and “mayor and council manager executive””, y geiriau “and “mayor and council manager executive””.

Yn adran 245(1A) a (4A), y geiriau “or a mayor and council manager executive”.

Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989

Yn adran 5(3)(b), y geiriau o “and, in a case where” hyd at ddiwedd paragraff (b).

Yn adran 5A(5)(b), y geiriau o “and, where” hyd at ddiwedd paragraff (b).

Yn adran 13—

  1. (a)

    is-adran (5A);

  2. (b)

    yn is-adran (9), y geiriau “and “mayor and council manager executive””.

Yn adran 21(3), y geiriau ““council manager”” a “and “mayor and council manager executive””.

Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992

Yn adran 106—

  1. (a)

    yn is-adran (1), y geiriau “or a council manager within the meaning of section 11(4)(b) of the Local Government Act 2000”;

  2. (b)

    yn is-adran (2), y geiriau “or a council manager”.

Deddf Llywodraeth Leol 2000

Yn adran 11—

  1. (a)

    is-adran (4), a

  2. (b)

    yn is-adran (10), y geiriau “or an officer” a “or (4)(b)”.

Adran 16.

Adran 26(2)(b).

Adrannau 29.

Adran 33.

Yn adran 48(1), y diffiniad o “council manager”.

Yn Atodlen 1, paragraff 3.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynigion ar gyfer Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2293)

Y Rheoliadau cyfan.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Trefniadau Gweithrediaeth a Threfniadau Amgen) (Cymru) 2004 (O.S.2004/3158)

Y Rheoliadau cyfan.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/397)

Y Rheoliadau cyfan.

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Adran 87(3).

RHAN C:NEWIDIADAU I DREFNIADAU GWEITHREDIAETH (RHAN 4 O'R MESUR)

Annotations:
Commencement Information

I25Atod. 4 Pt. C mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(d)

Cyfeirnod

Graddau'r diddymiad

Deddf Llywodraeth Leol 2000

Adran 30.

RHAN D:TROSOLWG A CHRAFFU (RHAN 6 O'R MESUR)

Annotations:
Commencement Information

I26Atod. 4 Pt. D ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Cyfeirnod

Graddau'r diddymiad

Deddf Llywodraeth Leol 2000

Yn adran 21(13)(aa), yr “and” olaf.

Yn adran 21A(1)(c), y geiriau “in the case of a local authority in England”.

Yn adran 21A(6)(a), y geriau “in England”.

Yn adran 21B(1), y geiriau “in England”.

Yn adran 22, y geriau “in England”.

RHAN E:CYMUNEDAU A CHYNGHORAU CYMUNED (RHAN 7 O'R MESUR)

Annotations:
Commencement Information

I27Atod. 4 Pt. E mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(c)

Cyfeirnod

Graddau'r diddymiad

Deddf Llywodraeth Leol 1972

Adrannau 28 i 29B.

RHAN F:AELODAU: TALIADAU A PHENSIYNAU (RHAN 8 O'R MESUR)

Annotations:
Commencement Information

I28Atod. 4 Pt. F ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Cyfeirnod

Graddau'r diddymiad neu'r dirymiad

Deddf Llywodraeth Leol 1972

Adrannau 173 i 178.

Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989

Adran 18(1) i (3), (3B), (3D), (3E) a (3G) i (6).

Deddf yr Amgylchedd 1995

Yn Atodlen 7, paragraff 11(1) a (2).

Deddf Llywodraeth Leol 2000

Adran 100.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistrefi Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1895)

Y Rheoliadau cyfan.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Cymuned) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/895)

Y Rheoliadau cyfan.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Awdurdodau Tân) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2555)

Y Rheoliadau cyfan.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1086)

Y Rheoliadau cyfan.