Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

(a gyflwynwyd gan adran 160)

ATODLEN 3LL+CTALIADAU A PHENSIYNAU: MÅN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

This schedule has no associated Explanatory Notes

Deddf Llywodraeth Leol 1972LL+C

1(1)Diwygir Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel a ganlyn.

(2)Yn adran 94(5) (lwfansau llywodraeth leol i beidio â chyfrif fel buddiant ariannol at ddibenion gwahardd pleidleisio pan fo gan aelod fuddiant ariannol), ar ôl “1989” mewnosoder “or under any provision of Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

(3)Mae adrannau 173 i 178 (lwfansau i aelodau) yn peidio â chael effaith.

(4)Yn adran 246(16) (cymhwyso darpariaethau ynghylch lwfansau awdurdodau lleol i ymddiriedolwyr siarter), ar ôl “above” mewnosoder “and (in relation to Wales) Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

(5)Yn adran 249(4)(b) (lwfans nad yw'n daladwy i henaduriaid mygedol am fod yn bresennol mewn seremonïau dinesig), ar y diwedd mewnosoder “or Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989LL+C

2(1)Diwygir adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynlluniau lwfansau i aelodau o awdurdodau lleol) fel a ganlyn.

(2)Hepgorer is-adrannau (1) i (3), (3B), (3D), (3E) a (3G) i (6).

(3)Yn lle is-adran (3A) (pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n galluogi awdurdodau lleol i benderfynu ar hawl i arian rhodd), rhodder—

(3A)Regulations may be made by the Welsh Ministers to make provision for or in connection with—

(a)enabling county councils or county borough councils to determine which members of the council are to be entitled to gratuities,

(b)treating such payments relating to relevant matters (within the meaning of Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011) as may be specified in the regulations as amounts in respect of which such gratuities are payable..

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Deddf yr Amgylchedd 1995LL+C

3Ym mharagraff 11 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (cymhwyso darpariaethau am lwfansau awdurdodau lleol i awdurdodau Parciau Cenedlaethol), hepgorer is-baragraffau (1) a (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998LL+C

4(1)Diwygir Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel a ganlyn.

(2)Yn adran 94(5C) (pŵer i gymhwyso darpariaethau am lwfansau awdurdodau lleol i banelau apelau derbyn), ar ôl “1972” mewnosoder “or (in relation to Wales) Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

(3)Yn adran 95(3B) (pŵer i gymhwyso darpariaethau am lwfansau awdurdodau lleol i banelau apelau derbyn yn achos disgyblion sydd wedi eu gwahardd o ddwy neu ragor o ysgolion), ar ôl “1972” mewnosoder “or (in relation to Wales) Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Deddf Llywodraeth Leol 2000LL+C

5(1)Diwygir Deddf Llywodraeth Leol 2000 fel a ganlyn.

(2)Yn adran 99(1) (pŵer i wneud darpariaeth ynghylch lwfansau etc. mewn rheoliadau am bensiynau llywodraeth leol), ar y diwedd mewnosoder “; and for the purposes of the application of this subsection to Wales, the reference to pensions and allowances is to be ignored.”

(3)Mae adran 100 (pŵer Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch lwfansau awdurdodau lleol) yn peidio â chael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Deddf Addysg 2002LL+C

6Yn adran 52(6) o Ddeddf Addysg 2002 (pŵer i gymhwyso darpariaethau ynghylch lwfansau awdurdodau lleol i banelau sy'n ymdrin â gwahardd disgyblion), ar ôl “1972 (c. 70)” mewnosoder “or (in relation to Wales) Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Deddf Addysg a Sgiliau 2008LL+C

7Yn adran 48(4) o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (pŵer i gymhwyso darpariaethau ynghylch lwfansau awdurdodau lleol i banelau presenoldeb), ar ôl “1972 (c. 70)” mewnosoder “or (in relation to Wales) Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)