xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynwyd gan adran 141(2))

ATODLEN 2LL+CY PANEL

AelodaethLL+C

1(1)[F1Dim llai na 3, a dim mwy na 7,] aelod sydd i'r Panel ac fe'u penodir gan Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi un o'r aelodau'n Gadeirydd.

(3)Rhaid i aelodau'r Panel ethol un o'u plith yn Is-gadeirydd.

(4)Mae'r canlynol wedi eu anghymhwyso rhag bod yn aelodau o'r Panel—

(a)aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)aelod o Dŷ'r Cyffredin;

(c)aelod o Dŷ'r Arglwyddi;

F2(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(e)aelod o awdurdod lleol neu o gyngor cymuned;

(f)person sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o awdurdod lleol neu gyngor cymuned.

F3(5). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

DeiliadaethLL+C

2(1)Mae aelodau'r Panel yn dal eu swyddi, ac yn gadael eu swyddi, yn unol â thelerau eu penodiad, sef y telerau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.

(2)Ni chaniateir penodi person yn aelod o'r Panel am gyfnod hwy na phedair blynedd.

(3)Ond mae gan berson sy'n peidio â bod yn aelod o'r Panel hawl i gael ei ailbenodi.

(4)Mae person a benodir i lenwi sedd wag achlysurol yn aelodaeth y Panel yn gwasanaethu fel aelod hyd at y dyddiad y byddai cyfnod aelodaeth y person y llenwyd ei sedd yn dod i ben.

(5)Mae aelod o'r Panel sy'n dal swydd Cadeirydd neu Is-gadeirydd yn gwneud hynny nes daw cyfnod aelodaeth y person hwnnw i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

CyfarfodyddLL+C

3(1)Rhaid i'r Panel gyfarfod o leiaf unwaith bob blwyddyn galendr.

(2)Cworwm y Panel yw tri a rhaid iddo gynnwys y Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd.

(3)Y Cadeirydd(neu, yn absenoldeb y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd) sy'n llywyddu yng nghyfarfodydd y Panel.

(4)Caiff aelodau'r Panel (yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir gan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan 8) reoleiddio gweithdrefnau'r Panel.

(5)Rhaid i gwestiwn sydd i'w benderfynu gan y Panel gael ei benderfynu mewn cyfarfod o aelodau'r Panel drwy fwyafrif o'r pleidleisiau sy'n cael eu bwrw gan yr aelodau hynny sy'n bresennol yn y cyfarfod.

(6)Os yw nifer y pleidleisiau ar gwestiwn sydd i'w benderfynu yn gyfartal, mae gan y person sy'n llywyddu'r cyfarfod ail bleidlais neu'r bleidlais fwrw.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

GwybodaethLL+C

4Caiff y Panel, mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau, geisio gwybodaeth neu gyngor.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Treuliau, cymorth gweinyddol etc.LL+C

5(1)Rhaid i Weinidogion Cymru dalu treuliau a dynnir gan y Panel (naill ai gan y Panel fel corff neu gan aelodau unigol o'r Panel) wrth iddo gyflawni swyddogaethau'r Panel (neu swyddogaethau aelodau'r Panel yn rhinwedd eu swydd).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau i aelodau'r Panel.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod cymorth gweinyddol ar gael i'r Panel.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)