xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

ATODLEN 1LL+CNEWID TREFNIADAU AMGEN YN DREFNIADAU GWEITHREDIAETH

RHAN 3LL+CAMRYWIOL

Methu â rhoi'r gorau i weithredu trefniadau amgenLL+C

13(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru y bydd awdurdod lleol yn methu â rhoi'r gorau i weithredu trefniadau amgen a dechrau gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn unol ag adran 35.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddarparu bod yr awdurdod lleol—

(a)yn rhoi'r gorau i weithredu trefniadau amgen, a

(b)yn dechrau gweithredu trefniadau gweithrediaeth ar ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru (“trefniadau gweithrediaeth gosodedig”).

(3)Mae trefniadau gweithrediaeth gosodedig i'w trin fel pe baent wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol ei hun.

(4)Mae paragraffau 7(2) a (3)(c) i (e) yn gymwys i drefniadau gweithrediaeth gosodedig fel y maent yn gymwys i drefniadau gweithrediaeth mewn cynigion o dan baragraff 2.

(5)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio â'r darpariaethau hynny ym mharagraff 7 (fel y maent yn gymwys yn rhinwedd is-baragraff (4)) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru wneud y gorchymyn sy'n darparu ar gyfer y trefniadau gweithrediaeth gosodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Y trefniadau i'w trin fel pe baent yn cael eu gweithredu ar ôl pasio penderfyniadLL+C

14Mae trefniadau gweithrediaeth sy'n dod yn weithredol yn unol ag adran 35 a'r Atodlen hon i'w trin fel pe baent yn cael eu gweithredu ar ôl i'r awdurdod lleol basio penderfyniad o dan adran 38.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

DehongliLL+C

15Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “cynigion” (“proposals”) (ac eithrio mewn cysylltiad â chynigion wrth gefn) yw cynigion o dan baragraff 2;

  • ystyr “cynigion amlinellol wrth gefn” (“outline fall-back proposals”) yw cynigion o dan baragraff 9(2);

  • ystyr “cynigion manwl wrth gefn” (“detailed fall-back proposals”) yw cynigion o dan baragraff 10(4); mae i'r ymadrodd “cynigion wrth gefn” (“fall-back proposals”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 9(3);

  • ystyr “ffurf arfaethedig ar weithrediaeth” (“proposed form of executive”) yw'r ffurf ar weithrediaeth y mae awdurdod lleol, mewn cynigion o dan baragraff 2, neu mewn cynigion wrth gefn, yn bwriadu dechrau ei gweithredu;

  • ystyr “newid i drefniadau gweithrediaeth” (“change to executive arrangements”) yw'r newid i drefniadau gweithrediaeth a gynigir mewn cynigion neu mewn cynigion wrth gefn.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)