Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

AtodolLL+C

Valid from 31/08/2011

157CanllawiauLL+C

(1)Caiff y Panel roi cyfarwyddyd am sut i gydymffurfio â gofynion a osodir gan adroddiadau blynyddol.

(2)Mae pŵer y Panel i roi canllawiau o dan is-adran (1) yn cynnwys y pŵer i amrywio neu ddirymu'r canllawiau a roddwyd.

(3)Rhaid i awdurdod perthnasol roi sylw i ganllawiau a roddir o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 157 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Valid from 31/08/2011

158Y pŵer i wneud addasiadau i ddarpariaeth ynghylch y PanelLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud addasiadau i'r Rhan hon er mwyn—

(a)ychwanegu, amrywio neu hepgor darpariaeth am aelodaeth y Panel, deiliadaeth ei aelodau, neu ei weithdrefnau;

(b)ychwanegu, amrywio neu hepgor darpariaeth sy'n rhoi neu'n gosod swyddogaeth ar y Panel.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 158 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

159Dehongli Rhan 8LL+C

(1)Yn y Rhan hon—

  • mae i “adroddiad blynyddol” (“annual report”) yr ystyr a roddir yn adran 145;

  • mae i “aelod” (“member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yr ystyr a roddir yn adran 144;

  • mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yr ystyr a roddir yn adran 144;

  • mae i “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yr ystyr a roddir yn adran 144 (ac mae cyfeiriad at ddisgrifiad o awdurdod perthnasol i'w ddarllen yn unol â'r adran honno);

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • mae i “mater perthnasol” (“relevant matter”) yr ystyr a roddir yn adran 142;

  • ystyr “y Panel” (“the Panel”) yw Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol;

  • mae i “pensiwn perthnasol” (“relevant pension”) yr ystyr a roddir yn adran 143.

(2)Mae'r cyfeiriadau yn adrannau 153, 154 a 157 at ofynion a osodir gan adroddiad blynyddol yn cynnwys cyfeiriad at ofynion sy'n cael eu cynnwys mewn adroddiad blynyddol gan adroddiad atodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 159 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(a)

Valid from 30/04/2012

160Diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 3 (taliadau a phensiynau: mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 160 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)