RHAN 8AELODAU: TALIADAU A PHENSIYNAU
Atodol
I1157Canllawiau
1
Caiff y Panel roi cyfarwyddyd am sut i gydymffurfio â gofynion a osodir gan adroddiadau blynyddol.
2
Mae pŵer y Panel i roi canllawiau o dan is-adran (1) yn cynnwys y pŵer i amrywio neu ddirymu'r canllawiau a roddwyd.
3
Rhaid i awdurdod perthnasol roi sylw i ganllawiau a roddir o dan is-adran (1).
I2158Y pŵer i wneud addasiadau i ddarpariaeth ynghylch y Panel
Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud addasiadau i'r Rhan hon er mwyn—
a
ychwanegu, amrywio neu hepgor darpariaeth am aelodaeth y Panel, deiliadaeth ei aelodau, neu ei weithdrefnau;
b
ychwanegu, amrywio neu hepgor darpariaeth sy'n rhoi neu'n gosod swyddogaeth ar y Panel.
I3159Dehongli Rhan 8
1
Yn y Rhan hon—
mae i “adroddiad blynyddol” (“annual report”) yr ystyr a roddir yn adran 145;
mae i “aelod” (“member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yr ystyr a roddir yn adran 144;
mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yr ystyr a roddir yn adran 144;
mae i “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yr ystyr a roddir yn adran 144 (ac mae cyfeiriad at ddisgrifiad o awdurdod perthnasol i'w ddarllen yn unol â'r adran honno);
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;
mae i “mater perthnasol” (“relevant matter”) yr ystyr a roddir yn adran 142;
ystyr “y Panel” (“the Panel”) yw Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol;
mae i “pensiwn perthnasol” (“relevant pension”) yr ystyr a roddir yn adran 143.
2
Mae'r cyfeiriadau yn adrannau 153, 154 a 157 at ofynion a osodir gan adroddiad blynyddol yn cynnwys cyfeiriad at ofynion sy'n cael eu cynnwys mewn adroddiad blynyddol gan adroddiad atodol.
I4160Diwygiadau canlyniadol
Mae Atodlen 3 (taliadau a phensiynau: mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.