C1C2RHAN 8F8...TALIADAU A PHENSIYNAU
Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd ag addasiadau) (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 25(3)(4), 46(1)
Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd gydag addasiadau) (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau.142(5), 143, 175(1)(f)(2)
F9Adroddiadau gan y Panel
A. 143A pennawd wedi ei amnewid (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 5 para. 15(f); O.S. 2021/231, ergl. 6(s)
I1I9I15145Adroddiadau blynyddol
1
Rhaid i'r Panel gyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol”) am arfer ei swyddogaethau mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol.
2
Caiff adroddiad blynyddol osod gofynion (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ofynion i wneud taliadau) ar awdurdodau perthnasol.
I2146Yr adroddiad blynyddol cyntaf
1
Y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 yw'r flwyddyn ariannol gyntaf y mae'n rhaid i'r Panel gyhoeddi adroddiad blynyddol arni o dan adran 145.
2
Rhaid cyhoeddi'r adroddiad ar y flwyddyn ariannol honno (“yr adroddiad blynyddol cyntaf”) heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2011.
3
Rhaid i'r adroddiad blynyddol cyntaf nodi—
a
y materion perthnasol,
b
y symiau a osodwyd o dan adran 142(3),
c
y gyfran a benderfynwyd o dan adran 142(4),
d
yr aelodau o awdurdodau perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdodau perthnasol dalu pensiwn perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy, a
e
y materion perthnasol y mae pensiwn perthnasol yn daladwy mewn cysylltiad â hwy.
4
Ar ôl cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf ond cyn cyhoeddi'r ail adroddiad blynyddol, caiff y Panel gyhoeddi un neu ragor o adroddiadau atodol.
5
Caiff adroddiad atodol o dan yr adran hon amrywio'r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol cyntaf at ddibenion is-adran (3)(a), (b), (c), (d) neu (e).
6
Wrth lunio adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel ystyried—
a
yr adroddiad ariannol cyntaf ac unrhyw adroddiadau atodol sy'n ymwneud ag ef, a
b
y sylwadau a gafodd y Panel am yr adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a).
7
Cyn cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf neu adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel—
a
anfon drafft at
i
Weinidogion Cymru,
ii
yr awdurdodau perthnasol hynny y mae'r Panel wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt neu wedi eu hawdurdodi i wneud taliadau i'w haelodau mewn cysylltiad â materion perthnasol, ac
iii
unrhyw bersonau eraill y mae'r Panel o'r farn eu bod yn briodol,
a,
b
ystyried y sylwadau y mae'n eu cael ar y drafft.
8
Daw darpariaethau'r adroddiad blynyddol cyntaf neu adroddiad atodol o dan yr adran hon i rym ar y dyddiad a bennir at y diben hwnnw yn yr adroddiad; ond ni chaiff yr adroddiad bennu dyddiad cynharach na diwrnod olaf y cyfnod o dri mis yn dechrau drannoeth y dyddiad cyhoeddi.
I3147Adroddiadau blynyddol dilynol
1
Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag adroddiadau blynyddol ar ôl yr adroddiad blynyddol cyntaf.
2
Rhaid cyhoeddi adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach nag—
a
F228 Chwefror yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi, neu
b
unrhyw ddyddiad diweddarach y mae'r Panel a Gweinidogion Cymru yn cytuno arno.
3
Rhaid i adroddiad blynyddol nodi—
a
drwy gyfeirio at y swm sydd ag iddo effaith ar gyfer pob mater perthnasol, unrhyw gyfradd neu fynegrif fel y'i gosodir o dan adran 142(6), a
b
y disgrifiadau o aelodau o awdurdodau perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdodau perthnasol dalu pensiwn perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy.
4
Caiff adroddiad blynyddol amrywio'r ddarpariaeth a wneir yn yr adroddiad blynyddol cyntaf at ddibenion adran 146(3)(a), (b), (c), (d) neu (e) F3(gan gynnwys drwy bennu nifer o dan adran 142(4)) .
5
Ar ôl cyhoeddi adroddiad blynyddol ond cyn cyhoeddi'r adroddiad blynyddol nesaf, caiff y Panel gyhoeddi un neu ragor o adroddiadau atodol.
6
Caiff adroddiad atodol o dan yr adran hon—
a
amrywio'r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol y mae'r adroddiad atodol yn ymwneud ag ef at ddibenion is-adran (3)(a) neu (b) (a chaiff wneud darpariaeth at y dibenion hynny i'r graddau nad yw'r adroddiad blynyddol yn ei gwneud);
b
amrywio'r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol cyntaf at ddibenion adran 146(3)(a), (b), (c), (d) neu (e) (neu'r ddarpariaeth honno fel y'i hamrywiwyd yn rhinwedd is-adran (4)).
7
Wrth lunio adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel ystyried—
a
yr adroddiad blynyddol blaenorol ac unrhyw adroddiadau atodol sy'n ymwneud ag ef;
b
y sylwadau a gafodd y Panel am yr adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a).
8
Cyn cyhoeddi adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel—
a
anfon drafft at
i
Weinidogion Cymru,
ii
yr awdurdodau perthnasol hynny y mae'r Panel wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt neu wedi eu hawdurdodi i wneud taliadau i'w haeoldau mewn cysylltiad â materion perthnasol, ac
iii
unrhyw bersonau eraill y mae'r Panel o'r farn ei bod yn briodol anfon drafft atynt,
a,
b
ystyried y sylwadau y mae'r Panel yn eu cael ar y drafft.
F19
Mae darpariaethau adroddiad blynyddol neu atodol o dan yr adran hon yn dod i rym ar y dyddiad a bennir at y diben hwnnw yn yr adroddiad.
10
Pan fo is-adran (11) yn gymwys, caiff yr adroddiad bennu bod darpariaeth gymwys i gael ei thrin fel petai wedi dod i rym hyd at 3 mis yn gynharach na dyddiad cyhoeddi’r adroddiad.
11
Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo adroddiad atodol yn cynnwys darpariaeth gymwys.
12
“Darpariaeth gymwys” yw darpariaeth sy’n gwneud amrywiad at ddibenion is-adran (3)(a), (b) neu (c) yn adran 146.
I4I10I16148Ymgynghori ar adroddiadau drafft
1
Rhaid i'r Panel beidio â chyhoeddi adroddiad blynyddol F5... cyn pen y cyfnod o wyth wythnos sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'n anfon drafft o'r adroddiad yn unol ag adran 146 neu 147.
F41A
Rhaid i’r Panel beidio â chyhoeddi adroddiad atodol—
a
cyn diwedd y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 147, neu
b
yn hwyrach na diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 147.
2
Rhaid i'r Panel, pan fydd yn anfon drafft o adroddiad yn unol â'r naill neu'r llall o'r adrannau hynny, osod copi electronig o'r drafft ar ei wefan.
I5I11I17149Cyfarwyddiadau i amrywio adroddiadau drafft
1
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r Panel i ailystyried darpariaeth yn yr adroddiad drafft.
2
Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu—
a
y ddarpariaeth,
b
y rheswm dros roi'r cyfarwyddyd, ac
c
y dyddiad erbyn pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r Panel ymateb.
3
O ran y Panel—
a
rhaid iddo ymateb i'r cyfarwyddyd heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir at ddibenion is-adran (2)(c);
b
ni chaiff gyhoeddi'r adroddiad cyn iddo fod wedi ymateb i'r cyfarwyddyd.
4
Os yw'r Panel yn penderfynu peidio ag amrywio'r drafft yn unol â'r cyfarwyddyd, rhaid iddo bennu yn ei ymateb y rheswm dros ei benderfyniad.
I6I12I18150Gofynion gweinyddol mewn adroddiadau
1
Caiff adroddiad blynyddol osod gofynion ar awdurdodau perthnasol er mwyn osgoi—
a
dyblygu taliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;
b
dyblygu'n faterion perthnasol faterion sy'n ymwneud â busnes swyddogol aelodau.
2
At ddibenion achos pan fo aelod o awdurdod perthnasol yn gwneud rhywbeth sy'n ymwneud ag awdurdod perthnasol arall (yn ogystal â'r awdurdod y mae'r aelod yn perthyn iddo), ac y mae'n rhaid gwneud taliad i'r aelod mewn cysylltiad â mater perthnasol, rhaid i adroddiad blynyddol ddangos sut i benderfynu p'un o'r awdurdodau fydd yn gorfod gwneud y taliad.
3
Caiff adroddiad blynyddol osod gofynion ar awdurdodau perthnasol er mwyn cadw—
a
cofnodion o geisiadau am daliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol;
b
cofnodion o daliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;
c
cofnodion o daliadau a wneir mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol.
I7I13I19151Gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadau
1
Caiff adroddiad blynyddol osod gofynion ar awdurdodau perthnasol ar gyfer gwneud trefniadau i gyhoeddi gwybodaeth o ddisgrifiad penodedig—
a
ynghylch taliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;
b
ynghylch taliadau a wneir mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol.
F7c
ynghylch taliadau eraill a wneir i aelodau awdurdodau perthnasol gan gyrff cyhoeddus eraill.
2
Caiff yr adroddiad ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu i awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad wneud trefniadau gwahanol.
F63
At ddibenion is-adran (1)(c), “corff cyhoeddus” yw—
a
bwrdd iechyd lleol,
b
panel heddlu a throsedd,
c
awdurdod perthnasol,
d
corff wedi ei ddynodi yn gorff cyhoeddus mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.
I8I14I20152Rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau
1
Os yw'r Panel yn cyhoeddi adroddiad, rhaid iddo hysbysu—
a
unrhyw bersonau y mae o'r farn ei bod yn debygol y bydd yr adroddiad yn effeithio arnynt, a
b
unrhyw ddarlledwyr ac unrhyw aelodau o'r wasg y mae o'r farn ei bod yn briodol eu hysbysu.
2
Rhaid i'r Panel sicrhau bod ei adroddiadau ar gael mewn modd rhesymol i bersonau yn gyffredinol.
3
Yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) a (2), caiff y Panel benderfynu sut i roi cyhoeddusrwydd i'w adroddiadau.
4
Yn yr adran hon, mae “adroddiad” (ac eithrio mewn perthynas ag is-adran (1)(b)) yn cynnwys drafft o adroddiad; ac ystyr “cyhoeddi”, mewn perthynas â drafft, yw ei anfon at y personau y mae'n ofynnol anfon drafft atynt o dan 146 neu 147.
Gair yn Rhn. 8 pennawd wedi ei hepgor (1.4.2014) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), aau. 63(2), 75(3); O.S. 2014/380, ergl. 2