RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 1PWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU

Rhoi sylw i safbwyntiau'r cyhoedd

62Rhoi sylw i safbwyntiau'r cyhoedd

1

Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau o'r math y cyfeirir atynt yn is-adran (2) mewn perthynas â phob un o bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod.

2

Trefniadau yw'r trefniadau hynny sy'n galluogi'r holl bersonau sy'n byw neu'n gweithio yn ardal yr awdurdod lleol i ddwyn i sylw'r pwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol eu safbwyntiau ar unrhyw fater sy'n cael ei ystyried gan y pwyllgor.

3

Rhaid i bwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol, pan fydd yn arfer ei swyddogaethau, roi sylw i unrhyw safbwyntiau a gaiff eu dwyn i'w sylw yn unol â threfniadau a wneir o dan yr adran hon.

4

Wrth gydymffurfio ag is-adran (1), rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

5

Wrth gydymffurfio ag is-adran (3), rhaid i bwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol roi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

6

Yn yr adran hon—

  • mae i “cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu” yr ystyr sydd i “joint overview and scrutiny committee” yn adran 21(2A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;

  • ystyr “mater sy'n cael ei ystyried” (“matter under consideration”), mewn perthynas â phwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol, yw mater y mae pwyllgor yn arfer unrhyw swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef;

  • ystyr “pwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol” (“relevant overview and scrutiny committee”), mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw—

    1. a

      pwyllgor trosolwg a chraffu i'r awdurdod,

    2. b

      is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath,

    3. c

      cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu i'r awdurdod, neu

    4. d

      is-bwyllgor i gyd-bwyllgor o'r fath.