xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CTROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 1LL+CPWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU

Y cyd-bwyllgorau trosolwg a chraffuLL+C

58Y cyd-bwyllgorau trosolwg a chraffuLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth i ganiatáu i unrhyw ddau awdurdod lleol neu ragor wneud y canlynol—

(a)penodi cyd-bwyllgor (“cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu”), a

(b)trefnu i'r pwyllgor arfer unrhyw swyddogaethau o ran llunio adroddiadau neu wneud argymhellion i'r canlynol ynghylch unrhyw fater nad yw'n fater wedi ei eithrio—

(i)unrhyw un neu ragor o'r awdurdodau lleol sy'n penodi'r pwyllgor, a

(ii)yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth o dan Ran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, gweithrediaeth yr awdurdod lleol.

(2)Yn is-adran (1)(b) ystyr “mater wedi ei eithrio” yw unrhyw fater y gallai pwyllgor trosedd ac anhrefn lunio adroddiad neu wneud argymhellion mewn cysylltiad ag ef—

(a)yn rhinwedd is-adran (1)(b) o adran 19 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (craffu gan awdurdodau lleol ar faterion trosedd ac anhrefn), neu

(b)yn rhinwedd is-adran (3)(a) o'r adran honno.

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—

(a)darpariaeth ar gyfer gwneud trefniadau dim ond mewn amgylchiadau rhagnodedig, neu'n ddarostyngedig i amodau neu gyfyngiadau rhagnodedig;

(b)darpariaeth ar gyfer penodi is-bwyllgorau i gyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu;

(c)mewn perthynas â chyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu (neu is-bwyllgorau i bwyllgorau o'r fath) darpariaeth sy'n cymhwyso unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau'r canlynol, neu sy'n cyfateb iddi neu iddynt—

(i)is-adrannau (4) i (15A) a (18) o adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000,

(ii)adrannau 21A, 21B, 21D, 21F a 21G o'r Ddeddf honno,

(iii)adran 186 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac Atodlen 11 iddi.

(4)Rhaid i awdurdod lleol a chyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, wrth arfer unrhyw swyddogaeth a roddir iddynt gan yr adran hon neu oddi tani, neu wrth benderfynu ai i'w harfer, roi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

(5)Yn adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (pwyllgorau trosolwg a chraffu), yn is-adran (2A)(e)—

(a)ar ôl “committee” mewnosoder

(i);

(b)ar ôl “concerned” mewnosoder , or

(ii)a joint overview and scrutiny committee within the meaning of section 58 of the Local Government (Wales) Measure 2011 appointed by two or more local authorities, one of which is the authority concerned.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 58 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(a)

Pwerau pwyllgorauLL+C

Rhagolygol

59Craffu ar bersonau dynodedigLL+C

(1)Diwygir adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (pwyllgorau trosolwg a chraffu) fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2)(e), ar y diwedd mewnosoder “(insofar as the committee is not, or committees are not, under a duty to do those things by virtue of subsection (2ZA))”.

(3)Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2ZA)Executive arrangements by a local authority in Wales must ensure that their overview and scrutiny committee is required (or their overview and scrutiny committees, and any joint overview and scrutiny committees, are required between them) to make reports or recommendations on matters which relate to designated persons and affect the authority’s area or the inhabitants of that area..

(4)Yn is-adran (2A), ar ôl “(2)” mewnosoder “or (2ZA)”.

(5)Yn is-adran (13)—

(a)ym mharagraff (aa), hepgorer yr “and”olaf;

(b)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)if it is a committee or sub-committee of a local authority in Wales may, in connection with making a report or recommendations of the kind referred to subsection (2ZA)—

(i)require a designated person to provide the committee or sub-committee with information, except information that relates to an excluded matter, and

(ii)require an officer, employee or other representative of a designated person to attend meetings of the committee, except in relation to an excluded matter..

(6)Ar ôl is-adran (15) mewnosoder—

(15A)It is the duty of a person to comply with the requirement mentioned in subsection (13)(c)(i) or (ii); but that does not require a designated person to provide information which is not reasonably required in connection with the making of the report or recommendations..

(7)Ar ôl is-adran (17) mewnosoder—

(18)In this section—

  • “designated person” means a person—

    (a)

    who is designated by the Welsh Ministers in accordance with section 21G, or

    (b)

    who falls within a category of person so designated;

  • “excluded matter” means any matter with respect to which a crime and disorder committee could make a report or recommendations—

    (a)

    by virtue of subsection (1)(b) of section 19 of the Police and Justice Act 2006 (local authority scrutiny of crime and disorder matters), or

    (b)

    by virtue of subsection (3)(a) of that section..

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 59 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Rhagolygol

60Hysbysu personau dynodedig am adroddiad neu argymhellionLL+C

Ar ôl adran 21E o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mewnosoder—

21FWales: notifying designated body of report or recommendations

(1)This section applies if an overview and scrutiny committee of a local authority in Wales, or a sub-committee of such a committee, makes a report or recommendations under section 21(2ZA).

(2)The committee or sub-committee may—

(a)send a copy of the report or recommendations to a designated person, and

(b)request the designated person to have regard to the report or recommendations.

(3)In sending a copy of the report or recommendations to the designated person, the committee or sub-committee—

(a)must exclude any confidential information, and

(b)may exclude any relevant exempt information.

(4)If information is excluded under subsection (3), in producing the copy of the report or recommendations the committee or sub-committee—

(a)may replace so much of the report or recommendations as discloses the information with a summary which does not disclose that information, and

(b)must do so if, in consequence of excluding the information, the report or recommendations would be misleading or not reasonably comprehensible.

(5)In this section—

  • “confidential information” has the meaning given by section 100A(3) of the Local Government Act 1972 (admission to meetings of principal councils);

  • “designated person” has the same meaning as in section 21;

  • “exempt information” has the meaning given by section 100I of that Act, and, in relation to any report or recommendations of a committee or joint committee which has functions under section 21(2)(f) of this Act, also includes information which is exempt information under section 186 of the National Health Service (Wales) Act 2006;

  • “relevant exempt information” means exempt information of a description specified in a resolution of the committee or sub-committee under section 100A(4) of the Local Government Act 1972 which applied to the proceedings, or part of the proceedings, at any meeting of the committee or sub-committee at which the report was, or recommendations were, considered..

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 60 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

61Personau dynodedigLL+C

Ar ôl adran 21F o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mewnosoder—

21GWales: designated persons

(1)The Welsh Ministers may, by order, designate for the purposes of section 21—

(a)one or more persons, and

(b)one or more categories of person.

(2)But—

(a)the designation of a person has effect only if that person meets the following conditions, and

(b)the designation of a category of persons has effect only if, and to the extent that, each person in that category meets the following conditions.

(3)Condition A is that the person provides the public, or a section of the public, with services, goods or facilities of any description (whether on payment or not).

(4)Condition B is that the person—

(a)provides those services, goods or facilities in the exercise of functions of a public nature, or

(b)is wholly or partly funded by public money.

(5)Condition C is that the person is not a local authority..

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 61 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I5A. 61 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(e)

Rhoi sylw i safbwyntiau'r cyhoeddLL+C

62Rhoi sylw i safbwyntiau'r cyhoeddLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau o'r math y cyfeirir atynt yn is-adran (2) mewn perthynas â phob un o bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod.

(2)Trefniadau yw'r trefniadau hynny sy'n galluogi'r holl bersonau sy'n byw neu'n gweithio yn ardal yr awdurdod lleol i ddwyn i sylw'r pwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol eu safbwyntiau ar unrhyw fater sy'n cael ei ystyried gan y pwyllgor.

(3)Rhaid i bwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol, pan fydd yn arfer ei swyddogaethau, roi sylw i unrhyw safbwyntiau a gaiff eu dwyn i'w sylw yn unol â threfniadau a wneir o dan yr adran hon.

(4)Wrth gydymffurfio ag is-adran (1), rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

(5)Wrth gydymffurfio ag is-adran (3), rhaid i bwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol roi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

(6)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 62 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I7A. 62 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(f)

Pwerau cynghorwyrLL+C

63Cyfeirio materion i bwyllgor trosolwg a chraffu etcLL+C

(1)Diwygir Adran 21A o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (cyfeirio materion at bwyllgor trosolwg a chraffu etc) fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1)(c) hepgorer “in the case of a local authority in England,”.

(3)Yn is-adran (3)—

(a)ar ôl “issued” mewnosoder “(in the case of a local authority in England)”;

(b)ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or (in the case of a local authority in Wales) by the Welsh Ministers”.

(4)Yn is-adran (6)(a)—

(a)ar ôl “2007” ychwanegwch “or section 56 of the Local Government (Wales) Measure 2011”;

(b)gadewch allan “in England”.

(5)Yn is-adran (10), ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”.

(6)Ar ôl is-adran (11) mewnosoder—

(12)In this section “local government matter”, in relation to a member of a local authority in Wales, means a matter which is not an excluded matter and which—

(a)relates to the discharge of any function of the authority, or

(b)affects all or part of the electoral area for which the member is elected or any person who lives or works in that area.

(13)In subsection (12) “excluded matter” means any matter which is—

(a)a local crime and disorder matter within the meaning of section 19 of the Police and Justice Act 2006 (local authority scrutiny of crime and disorder matters), or

(b)a matter of any description specified in an order made by the Welsh Ministers for the purposes of this section..

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 63 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I9A. 63 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(g)

Dyletswydd i ymateb i bwyllgor trosolwg a chraffuLL+C

64Dyletswydd i ymateb i bwyllgor trosolwg a chraffuLL+C

Yn adran 21B o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (dyletswydd awdurdod neu weithrediaeth i ymateb i bwyllgor trosolwg a chraffu), yn is-adran (1) hepgorer “in England”.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 64 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I11A. 64 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(g)

Darpariaeth ganlyniadol i adrannau 63 a 64LL+C

65Darpariaeth ganlyniadol i adrannau 63 a 64LL+C

(1)Diwygir Deddf Llywodraeth Leol 2000 fel a ganlyn.

(2)Yn adran 21D (cyhoeddi etc adroddiadau, argymhellion ac ymatebion: gwybodaeth gyfrinachol ac esempt), yn is-adran (6) yn y diffiniad o “exempt information”, ar ôl “2006” mewnosoder “or section 186 of the National Health Service (Wales) Act 2006”.

(3)Yn adran 22 (mynediad i wybodaeth etc), yn is-adran (12A)—

(a)ar ôl “State” ychwanegwch “(in relation to local authorities in England), or the Welsh Ministers (in relation to local authorities in Wales),”;

(b)ym mharagraff (a), gadewch allan “in England”.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 65 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I13A. 65 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(g)

Penodi personau i gadeirio pwyllgorauLL+C

66Y ddarpariaeth mewn rheolau sefydlog ynghylch penodi personau i gadeirio pwyllgorauLL+C

(1)Rhaid i reolau sefydlog awdurdod lleol wneud darpariaeth (“darpariaeth benodi”) ar gyfer penodi personau sydd i gadeirio pwyllgor neu bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod lleol (“cadeiryddion pwyllgorau”).

(2)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi gydymffurfio—

(a)ag adran 67,

(b)ag adran 68, ac

(c)ag adran 69 (ac yn unol â hynny ag adrannau 70 i 73 neu ag adran 74).

(3)Rhaid i ddarpariaeth benodi beidio â rhwystro person rhag cael ei benodi'n gadeirydd pwyllgor oherwydd bod y person—

(a)yn aelod, neu ddim yn aelod, o unrhyw grŵp gwleidyddol, neu

(b)yn aelod, neu ddim yn aelod, o grŵp gwleidyddol penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 66 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I15A. 66 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(h)

67Yr adegau pan fo penodiadau i'w gwneud gan bwyllgorLL+C

(1)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu ar gyfer penodi cadeiryddion pwyllgorau yn achosion A i C a nodir yn yr adran hon.

(2)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu bod cadeirydd y pwyllgor, neu bob cadeirydd pwyllgor, yn yr achosion hynny, i'w benodi gan y pwyllgor y mae'r person hwnnw i'w gadeirio.

(3)Achos pan nad oes grwpiau gwleidyddol ar yr awdurdod yw achos A .

(4)Achos pan nad oes ond un grŵp gwleidyddol ar yr awdurdod yw achos B.

(5)Pan ddigwydd y canlynol ceir achos C—

(a)mae dau grŵp gwleidyddol (ond dim mwy) ar yr awdurdod,

(b)nid oes gan yr awdurdod ond un pwyllgor trosolwg a chraffu, ac

(c)o ran gweithrediaeth yr awdurdod—

(i)mae'n cynnwys aelodau o'r ddau grŵp gwleidyddol, neu

(ii)nid yw'n cynnwys unrhyw aelod o'r naill grŵp gwleidyddol na'r llall.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 67 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I17A. 67 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(h)

68Yr adegau pan fo penodiadau i'w gwneud gan grŵp nad yw'n grŵp gweithrediaethLL+C

(1)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu ar gyfer penodi cadeirydd y pwyllgor yn yr achos a nodir yn yr adran hon.

(2)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu bod cadeirydd y pwyllgor, yn yr achos hwnnw, i'w benodi gan y grŵp gwleidyddol nad yw'n grŵp gweithrediaeth.

(3)Achos fel a ganlyn yw'r achos hwnnw—

(a)mae dau grŵp gwleidyddol (ond dim mwy) ar yr awdurdod,

(b)nid oes gan yr awdurdod ond un pwyllgor trosolwg a chraffu, ac

(c)o ran gweithrediaeth yr awdurdod—

(i)mae'n cynnwys un aelod neu fwy o un grŵp gwleidyddol, ond

(ii)nid yw'n cynnwys unrhyw aelod o'r grŵp gwleidyddol arall.

(4)Yn yr adran hon ystyr “grŵp gwleidyddol nad yw'n grŵp gweithrediaeth” yw'r grŵp a nodir yn is-adran (3)(c)(ii).

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 68 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I19A. 68 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(h)

69Sut y mae penodiadau i'w gwneud mewn achosion eraillLL+C

(1)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu ar gyfer penodi cadeiryddion pwyllgor mewn achosion ac eithrio'r rhai a nodir yn adran 67 a 68.

(2)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi sy'n gymwys mewn achosion eraill gydymffurfio—

(a)ag adran 70 i 73, neu

(b)ag adran 74.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 69 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I21A. 69 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(h)

70Y penodiadau sydd i'w gwneud gan grwpiau gwleidyddolLL+C

(1)Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon os yw'n darparu—

(a)ei bod yn ofynnol i'r awdurdod, bob tro y bydd yn amser penodi holl gadeiryddion ei bwyllgorau, i wneud penderfyniad o dan is-adran (2) ar ba grwpiau gwleidyddol ar yr awdurdod sydd â hawl i wneud pa benodiadau, a

(b)i'r grwpiau allu wneud y penodiadau yn unol â hynny.

(2)Penderfyniad sydd, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, yn rhoi effaith i'r egwyddorion a ganlyn yw'r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-adran (1).

(3)Yr egwyddor gyntaf yw—

(a)os nad oes ond un grŵp gweithrediaeth, mae cyfran y cadeiryddion pwyllgor y mae gan y grŵp gweithrediaeth hawl i'w penodi yn cyfateb i gyfran yr aelodau o'r awdurdod sydd yn y grŵp;

(b)os oes dau neu ragor o grwpiau gweithrediaeth, mae cyfran y cadeiryddion pwyllgor y mae gan y grwpiau gweithrediaeth (o'u cymryd gyda'i gilydd) hawl i'w penodi, yn cyfateb i gyfran yr aelodau o'r awdurdod sy'n aelodau o'r grwpiau hynny (o'u cymryd gyda'i gilydd).

(4)Yr ail egwyddor yw—

(a)os nad oes ond un grŵp gwrthblaid, mae gan y grŵp hawl i benodi holl ddyraniad yr wrthblaid o gadeiryddion pwyllgor, neu

(b)os oes dau neu ragor o grwpiau gwrthblaid—

(i)mae gan y grwpiau gwrthblaid (o'u cymryd gyda'i gilydd) hawl i benodi holl ddyraniad yr wrthblaid o gadeiryddion pwyllgor, a

(ii)mae cyfran dyraniad yr wrthblaid o gadeiryddion pwyllgor y mae gan bob grŵp gwrthblaid (“grŵp perthnasol”) hawl i'w penodi yn cyfateb i gyfran aelodau'r grŵp gwrthblaid sy'n aelodau o'r grŵp perthnasol.

(5)Wrth roi effaith i'r egwyddorion yn is-adrannau (3)(a) a (b) a (4)(b)(ii), rhaid i'r ddarpariaeth benodi—

(a)darparu bod hawl grŵp gwleidyddol i benodi cadeiryddion pwyllgor yn hawl i benodi nifer cyfan o gadeiryddion pwyllgor, a

(b)yn unol â hynny, ddarparu i'r hawl gael ei thalgrynnu i'r nifer cyfan agosaf os na fyddai fel arall yn nifer cyfan.

(6)Wrth roi effaith i'r egwyddorion yn is-adran (3)(a) a (b), rhaid i'r ddarpariaeth benodi a wneir yn unol ag is-adran (5)(b) ddarparu i hawl y grŵp gweithrediaeth, neu'r grwpiau gweithrediaeth, gael ei thalgrynnu i lawr i'r nifer cyfan agosaf.

(7)At ddibenion is-adrannau (5) a (6), rhaid ystyried sero yn nifer cyfan.

(8)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 70 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I23A. 70 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(h)

71Methu â gwneud penodiadau yn unol ag adran 70LL+C

(1)Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon os yw'n darparu—

(a)ei bod yn ofynnol i'r awdurdod, bob tro y bydd yn amser penodi rhai cadeiryddion pwyllgor neu'r holl gadeiryddion pwyllgor (“y cadeiryddion heb eu penodi”) sydd i'w penodi yn unol â darpariaeth benodi sy'n cydymffurfio ag adran 70 ond nad ydynt wedi cael eu penodi felly, wneud penderfyniad o dan is-adran (2) o sut y mae'r cadeiryddion heb eu penodi i gael eu penodi, a

(b)i'r cadeiryddion heb eu penodi gael eu penodi yn unol â hynny.

(2)Penderfyniad sydd, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, yn rhoi effaith i'r egwyddorion a ganlyn yw'r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-adran (1).

(3)Yr egwyddor gyntaf yw nad oes hawl gan unrhyw grŵp gweithrediaeth i benodi unrhyw un o'r cadeiryddion heb eu penodi.

(4)Yr ail egwyddor yw—

(a)os nad oes ond un grŵp gwrthblaid, a bod y grŵp hwnnw wedi gwneud ei holl benodiadau cychwynnol, neu

(b)os oes dau neu ragor o grwpiau gwrthblaid, a bod un neu ragor ohonynt wedi gwneud ei holl benodiadau cychwynnol,

mae gan bob grŵp penodi hawl i benodi'r gyfran o gadeiryddion pwyllgor heb eu penodi sy'n cyfateb i gyfran y penodiadau cychwynnol gorffenedig a oedd yn benodiadau a wnaed gan y grŵp hwnnw.

(5)Y drydedd egwyddor yw—

(a)os oes cadeiryddion pwyllgor heb eu penodi, ond

(b)nid oes un ohonynt i gael eu penodi fel y crybwyllir yn is-adran (4),

mae pob cadeirydd pwyllgor heb ei benodi i'w benodi gan y pwyllgor y mae'r person hwnnw i'w gadeirio.

(6)Y bedwaredd egwyddor yw—

(a)os oes un neu ragor o gadeiryddion pwyllgor heb eu penodi i'w penodi fel y crybwyllir yn is-adran (4), ond

(b)mae un neu ragor ohonynt heb eu penodi felly,

mae pob cadeirydd pwyllgor nas penodir felly i'w benodi gan y pwyllgor y mae'r person hwnnw i'w gadeirio.

(7)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 71 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I25A. 71 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(h)

72Newidiadau yng nghyfansoddiad gweithrediaethLL+C

(1)Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon os yw'n darparu ar gyfer yr achos a geir yn is-adran (2) drwy gyfrwng darpariaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-adrannau (3) a (4).

(2)Yr achos hwnnw yw pan fo'r naill neu'r llall neu'r naill a'r llall o'r pethau a ganlyn yn digwydd—

(a)mae grŵp gwleidyddol yn peidio â bod yn grŵp gweithrediaeth;

(b)mae grŵp gwleidyddol yn dechrau bod yn grŵp gweithrediaeth;

ac nid yr achos a geir yn adran 70 ydyw.

(3)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu ar gyfer gwneud—

(a)penderfyniad adran 70 (fel pe byddai wedi dod yn amser penodi holl gadeiryddion pwyllgorau'r awdurdod lleol), a

(b)penderfyniad ynghylch a oes gwahaniaeth rhwng—

(i)nifer y cadeiryddion pwyllgor y byddai gan grŵp gwleidyddol hawl i'w penodi'n unol â phenderfyniad adran 70, a

(ii)nifer y cadeiryddion pwyllgor sy'n dal swyddi ar yr adeg honno ac a benodwyd gan y grŵp hwnnw.

(4)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu bod unrhyw wahaniaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-adran (3)(b) yn cael ei ddileu gan y naill neu'r llall o'r canlynol neu gan y naill a'r llall o'r canlynol—

(a)terfynu penodiadau presennol cadeiryddion pwyllgorau;

(b)penodi cadeiryddion newydd ar gyfer pwyllgorau.

(5)At ddibenion yr adran hon, ystyrir bod grŵp gwleidyddol yn peidio â bod yn grŵp gweithrediaeth dim ond os, ar ôl iddo beidio â bod yn grŵp gweithrediaeth, bod cyfnod o ddau fis (gan ddechrau ar y diwrnod y mae'n peidio â bod yn grŵp gweithrediaeth) yn mynd heibio heb iddo ddod yn grŵp gweithrediaeth eto.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 72 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I27A. 72 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(h)

73Swyddi gwag achlysurol ymhlith cadeiryddion pwyllgorLL+C

(1)Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon os yw'n darparu ar gyfer yr achos a geir yn is-adran (2) drwy gyfrwng darpariaeth o'r math y cyfeirir ati yn is-adrannau (3) a (4).

(2)Yr achos hwnnw yw—

(a)pan fo'n amser i benodi rhai o gadeiryddion pwyllgor yr awdurdod, ond nid yr holl gadeiryddion, a

(b)nid yr achos a geir yn adran 72 ydyw.

(3)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu ar gyfer gwneud—

(a)penderfyniad adran 70 (fel pe byddai wedi dod yn amser penodi holl gadeiryddion pwyllgorau'r awdurdod lleol), a

(b)penderfyniad ynghylch a oes gwahaniaeth rhwng—

(i)nifer y cadeiryddion pwyllgor y byddai gan grŵp gwleidyddol hawl i'w penodi'n unol â phenderfyniad adran 70, a

(ii)nifer y cadeiryddion pwyllgor sy'n dal swyddi ar yr adeg honno ac a benodwyd gan y grŵp hwnnw.

(4)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu bod unrhyw wahaniaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-adran (3)(b) yn cael ei ddileu, i'r graddau y mae hynny yn bosibl, gan benodiad y cadeirydd pwyllgor neu'r cadeiryddion pwyllgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 73 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I29A. 73 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(h)

74Yr awdurdod yn penderfynu ar ddarpariaeth benodiLL+C

(1)Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon—

(a)os nad yw'r ddarpariaeth yn llai ffafriol nag adran 70 i grwpiau gwrthblaid, a

(b)os cymeradwyir y ddarpariaeth drwy benderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleol ac sy'n benderfyniad y mae iddo gefnogaeth ar draws y grwpiau.

(2)Nid yw darpariaeth benodi'n llai ffafriol nag adran 70 i grwpiau gwrthblaid os yw'n darparu—

(a)bod y cyfle i'w roi i grwpiau gwrthblaid ar yr awdurdod lleol (o'u cymryd gyda'i gilydd) i benodi nifer mwy o gadeiryddion pwyllgor nag yn achos darpariaeth a wneir yn unol ag adran 70, a

(b)bod y cyfle i'w roi i bob grŵp gwrthblaid ar yr awdurdod lleol i benodi'r un nifer o leiaf o gadeiryddion pwyllgor ag a fyddai'n achos darpariaeth a wneir yn unol ag adran 70.

(3)Mae cefnogaeth ar draws y grwpiau i benderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleol—

(a)os yw'r personau sy'n pleidleisio o blaid y penderfyniad yn cynnwys aelodau o bob grŵp gwleidyddol ar yr awdurdod, a

(b)os yw pob grŵp gwleidyddol ar yr awdurdod yn rhoi cefnogaeth fwyafrifol i'r penderfyniad.

(4)Mae grŵp gwleidyddol ar yr awdurdod yn rhoi cefnogaeth fwyafrifol i'r penderfyniad os yw nifer aelodau'r grŵp hwnnw sy'n pleidleisio o blaid y penderfyniad yn fwy na nifer aelodau'r grŵp hwnnw sy'n pleidleisio yn erbyn y penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 74 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I31A. 74 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(h)

75Darpariaeth atodol a dehongliLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth—

(a)ynghylch darpariaeth benodi, a

(b)ynghylch penodi cadeiryddion pwyllgorau yn unol â darpariaeth benodi.

(2)Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo arfer neu benderfynu ai i arfer swyddogaeth mewn cysylltiad â darpariaeth benodi neu â phenodi cadeiryddion pwyllgorau—

(a)rhoi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru, a

(b)cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

(3)Yn adrannau 66 i 74 ac yn yr adran hon—

(4)Yn adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (pwyllgorau trosolwg a chraffu), ar ôl is-adran (10) mewnosoder—

(10A)For provision about the appointment of persons to chair overview and scrutiny committees of local authorities in Wales, see sections 66 to 75 of the Local Government (Wales) Measure 2011..

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 75 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I33A. 75 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(h)

Aelodau cyfetholedig pwyllgorau trosolwg a chraffuLL+C

76Canllawiau a chyfarwyddiadau ynghylch cyfetholLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer swyddogaeth gyfethol neu benderfynu ai i'w harfer—

(a)rhoi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru, a

(b)cydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

(2)Yn yr adran hon ystyr y term “swyddogaeth gyfethol” yw un o swyddogaethau awdurdod lleol sy'n ymwneud ag aelodau cyfetholedig—

(a)o bwyllgorau trosolwg a chraffu, neu

(b)o is-bwyllgorau i'r pwyllgorau hynny.

(3)Mae'n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig iddi) swyddogaeth sy'n ymwneud â' phenodi'r aelodau cyfetholedig hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 76 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(b)

Darparu gwybodaethLL+C

77Blaen-gynlluniau a gwybodaeth arallLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth ragnodedig ynghylch arfer swyddogaethau'r canlynol—

(a)pwyllgor trosolwg a chraffu i awdurdod lleol, neu

(b)is-bwyllgor i'r pwyllgor hwnnw,

ar gael i aelodau o'r cyhoedd neu aelodau o'r awdurdod, neu mewn cysylltiad â hynny.

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (1) yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—

(a)darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth ragnodedig ar gael cyn arfer swyddogaethau a grybwyllir yn yr is-adran honno, a

(b)darpariaeth o ran y dull y bydd gwybodaeth ar gael ac ar ba ffurf y bydd yr wybodaeth ar gael.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 77 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(a)

Cyfyngu ar reoli pwyllgorau gan bleidiauLL+C

78Gwahardd pleidleisio o dan gyfarwyddyd chwip plaid a datgan cyfarwyddyd chwip plaidLL+C

(1)Ni chaniateir i aelod o bwyllgor trosolwg a chraffu bleidleisio ar gwestiwn mewn cyfarfod o'r pwyllgor os rhoddwyd cyfarwyddyd chwip plaid i'r aelod, cyn y cyfarfod, mewn perthynas â'r cwestiwn (“cyfarwyddyd gwaharddedig chwip plaid”).

(2)Rhaid diystyru pleidlais a roddir yn groes i is-adran (1).

(3)Rhaid i reolau sefydlog ddarparu bod rhaid i bob aelod o'r pwyllgor, ym mhob un o gyfarfodydd pwyllgor trosolwg a chraffu i awdurdod lleol, ddatgan unrhyw gyfarwyddyd gwaharddedig chwip plaid sydd wedi ei roi i'r aelod mewn perthynas â'r cyfarfod.

(4)Rhaid i reolau sefydlog ei gwneud yn ofynnol i gofnodion pob cyfarfod pwyllgor trosolwg a chraffu gofnodi pob datganiad o'r fath yn y cyfarfod am gyfarwyddyd gwaharddedig chwip plaid.

(5)Y person sy'n cadeirio cyfarfod o'r pwyllgor trosolwg a chraffu sydd i benderfynu a yw aelod o'r pwyllgor wedi cael cyfarwyddyd gwaharddedig chwip plaid mewn perthynas â'r cyfarfod.

(6)Os bydd mynd yn groes i'r adran hon yn effeithio'n sylweddol ar benderfynu cwestiwn gan bwyllgor trosolwg a chraffu, mae'r penderfyniad i'w drin fel pe na fo wedi ei wneud.

(7)Nid yw is-adran (6) yn effeithio ar unrhyw weithred neu anweithred gan unrhyw berson ac eithrio'r pwyllgor trosolwg a chraffu.

(8)At ddibenion is-adran (6), o ran mynd yn groes i'r adran hon ac effaith ar benderfynu cwestiwn gan bwyllgor trosolwg a chraffu—

(a)mae'n effeithio'n sylweddol os yw un aelod o'r pwyllgor neu ragor yn pleidleisio ar y cwestiwn yn groes i is-adran (1),

(b)mae'n effeithio'n sylweddol os na ddiystyrir un neu ragor o'r pleidleisiau a grybwyllir ym mharagraff (a) yn unol ag is-adran (2), ac

(c)mae'n effeithio'n sylweddol pe byddai'r penderfyniad i'r cwestiwn wedi bod yn wahanol pe byddai'r bleidlais neu'r pleidleisiau a grybwyllir ym mharagraff (b) wedi eu diystyru'n unol ag is-adran (2).

(9)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag is-bwyllgor i bwyllgor trosolwg a chraffu fel y mae'n gymwys i'r pwyllgor trosolwg a chraffu (ac yn unol â hyn mae cyfeiriadau yn yr adran hon at bwyllgor trosolwg a chraffu i'w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at is-bwyllgor o'r fath).

(10)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 78 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I37A. 78 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(i)

Strwythur pwyllgor trosolwg a chraffuLL+C

79Canllawiau a chyfarwyddiadauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi i awdurdod lleol—

(a)canllawiau ynghylch strwythur pwyllgor trosolwg a chraffu'r awdurdod, neu

(b)cyfarwyddiadau ynghylch strwythur pwyllgor trosolwg a chraffu'r awdurdod.

(2)Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(3)Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(4)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at strwythur pwyllgor trosolwg a chraffu awdurdod yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) gyfeiriadau ar y pethau a ganlyn—

(a)y nifer o bwyllgorau trosolwg a chraffu sydd gan yr awdurdod;

(b)y nifer o is-bwyllgorau (os oes rhai) sydd gan bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod;

(c)swyddogaethau pwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod;

(d)swyddogaethau is-bwyllgorau i bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 79 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(a)

DehongliLL+C

80Dehongli'r Bennod honLL+C

Yn y Bennod hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 80 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(a)