RHAN 4NEWIDIADAU MEWN TREFNIADAU GWEITHREDIAETH
PENNOD 1MABWYSIADU FFURF WAHANOL AR WEITHREDIAETH
Darpariaethau cyffredinol
I137Y pŵer i fabwysiadu ffurf wahanol ar weithrediaeth
1
Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth—
a
amrywio trefniadau neu osod trefniadau yn lle'r rhai presennol fel bod ei drefniadau gweithrediaeth yn darparu ar gyfer ffurf wahanol ar weithrediaeth, a
b
os yw'n gwneud amrywiad o'r fath i'r trefniadau, caiff amrywio'r trefniadau mewn ffyrdd eraill (os bydd rhai) sy'n briodol yn ei dyb ef.
2
Mae'r pwerau a roddir gan is-adran (1) yn arferadwy'n unol â darpariaethau canlynol y Bennod hon.
3
Ni chaiff awdurdod lleol ddefnyddio'r pŵer a roddir gan is-adran (1)(a) i amrywio ei drefniadau gweithrediaeth neu i roi trefniadau yn eu lle fwy nag unwaith mewn unrhyw gylch etholiadol.
4
At y diben hwnnw, bernir bod awdurdod lleol yn defnyddio'r pŵer a roddir gan is-adran (1)(a) ar yr adeg pan fo'r awdurdod yn pasio penderfyniad o dan adran 38.
5
Yn yr adran hon, ystyr “cylch etholiadol”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw pob cyfnod—
a
sy'n dechrau gydag etholiadau cyffredin i'r awdurdod, a
b
sy'n dod i ben gyda'r etholiadau cyffredin nesaf i'r awdurdod.
6
I gael y diffiniad o “ffurf ar weithrediaeth”, gweler adran 53.
I238Y cynigion ar gyfer mabwysiadu ffurf wahanol ar weithrediaeth
1
Rhaid i'r awdurdod lleol lunio cynigion i amrywio ei drefniadau gweithrediaeth neu i roi trefniadau yn eu lle, a'u cymeradwyo drwy benderfyniad (os bwriedir defnyddio'r pwerau a roddir gan adran 37).
2
Wrth lunio'r cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried i ba raddau y bydd y cynigion yn debygol, os rhoddir hwy ar waith, o gynorthwyo i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd y mae swyddogaethau'r awdurdod yn cael eu harfer, gan roi sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
3
Rhaid i'r awdurdod lleol anfon at Weinidogion Cymru—
a
copi o'r cynigion a gymeradwywyd ganddo, a
b
(gyda'r copi o'r cynigion) ddatganiad sy'n disgrifio'r rhesymau pam bod yr awdurdod o'r farn y byddai ei gynigion yn debygol, pe byddent yn cael eu rhoi ar waith, o sicrhau bod penderfyniadau'r awdurdod yn cael eu gwneud mewn ffordd effeithlon, dryloyw ac atebol.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ai i gymeradwyo'r cynigion ai peidio.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r awdurdod lleol yn ysgrifenedig am eu penderfyniad.
6
Os yw Gweinidogion Cymru'n rhoi hysbysiad am benderfyniad i beidio â chymeradwyo'r cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau pellach i roi'r cynigion ar waith ar ôl i'r hysbysiad gael ei roi.
I339Cynnwys y cynigion
Rhaid i gynigion awdurdod lleol gynnwys pob un o'r canlynol—
a
datganiad ynghylch i ba raddau y mae'r weithrediaeth i fod yn gyfrifol am swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 13(3)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 o dan y trefniadau gweithrediaeth arfaethedig,
b
amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith, ac
c
manylion am unrhyw drefniadau trosiannol sy'n angenrheidiol ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith.
I440Refferenda
1
Rhaid i'r cynigion ddarparu bod newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm os yw'r newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn un y mae'n ofynnol ei gymeradwyo mewn refferendwm.
2
Ond, mewn unrhyw achos arall, ni chaiff y cynigion ddarparu bod newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.
3
Am ddarpariaeth ynghylch refferenda o dan yr adran hon, gweler adran 45 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
I541Yr amserlen ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith: dim refferendwm
1
Mae'r adran hon yn gymwys i gynigion awdurdod lleol os nad yw newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.
2
Rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith fod yn un sy'n sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gwneud y newid mewn trefniadau gweithrediaeth heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y bydd yr awdurdod lleol yn anfon y copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru.
I642Yr amserlen ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith: refferendwm
1
Mae'r adran hon yn gymwys i gynigion awdurdod lleol os yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth yn ddarostyngedig i'w chymeradwyo mewn refferendwm.
2
Rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith gydymffurfio ag is-adrannau (3) a (4).
3
Rhaid i'r amserlen fod yn un sy'n sicrhau y bydd yr awdurdod lleol yn cynnal y refferendwm o fewn y cyfnod—
a
sy'n dechrau ddeufis, a
b
sy'n dod i ben chwe mis
ar ôl y diwrnod y bydd yr awdurdod lleol yn anfon y copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru.
4
Rhaid i'r amserlen fod yn un sy'n sicrhau y bydd yr awdurdod lleol, os canlyniad y refferendwm yw cymeradwyo newid mewn trefniadau gweithrediaeth, yn gwneud y newid hwnnw cyn pen cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y cynhelir y refferendwm.
I743Cyhoeddusrwydd i'r cynigion
1
Mae'r adran hon yn gymwys i awdurdod lleol sydd wedi cymeradwyo cynigion drwy benderfyniad.
2
Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig ar gael yn ei brif swyddfa i'w harchwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol.
3
Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—
a
sy'n datgan bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu gweithredu'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig,
b
os yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth yn ddarostyngedig i'w chymeradwyo mewn refferendwm, sy'n datgan—
i
ei bod yn ddarostyngedig i'r gymeradwyaeth honno, a
ii
dyddiad y refferendwm,
c
sy'n datgan y dyddiad y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau gweithredu'r trefniadau hynny,
d
sy'n disgrifio prif nodweddion y trefniadau hynny,
e
sy'n datgan bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau hynny ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod lleol i'w harchwilio gan y cyhoedd ar yr adegau a bennir yn yr hysbysiad, ac
f
sy'n rhoi cyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod lleol.
4
Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adrannau (2) a (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo basio'r penderfyniad yn cymeradwyo'r cynigion.
I844Rhoi'r cynigion ar waith
1
Rhaid i awdurdod lleol roi ei gynigion ar waith yn unol â'r amserlen sydd wedi ei chynnwys yn y cynigion.
2
Ond o ran newid mewn trefniadau gweithrediaeth—
a
os yw'n ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm, a
b
os nad yw'n cael ei gymeradwyo yn y refferendwm,
ni chaniateir i'r awdurdod lleol roi'r newid ar waith.
I945Camau gweithredu os yw'r newid yn cael ei wrthod mewn refferendwm
1
Mae'r adran hon yn gymwys i awdurdod lleol—
a
os yw'r newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm, a
b
os nad yw'r newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn cael ei gymeradwyo yn y refferendwm.
2
Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—
a
sy'n crynhoi cynigion yr awdurdod lleol a oedd yn destun y refferendwm,
b
sy'n datgan bod refferendwm ar gynigion yr awdurdod lleol wedi gwrthod y cynigion hynny, ac
c
sy'n datgan y bydd yr awdurdod lleol yn parhau i weithredu'r ffurf ar weithrediaeth y darperir ar ei chyfer gan ei drefniadau gweithrediaeth presennol.
3
Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adran (2) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y refferendwm.