xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3TREFNIADAU LLYWODRAETHU SYDD AR GAEL

Gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor

34Diddymu gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor

(1)Diwygir Deddf Llywodraeth Leol 2000 fel a ganlyn.

(2)Yn adran 11 (gweithrediaethau llywodraeth leol)—

(a)hepgorer is-adran (4) (gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor);

(b)yn is-adran (10)—

(i)hepgorer “or an officer”;

(ii)hepgorer “or (4)(b)”.

(3)Hepgorer adran 16.

(4)Yn adran 26 (cynigion nad yw refferendwm yn ofynnol ar eu cyfer), yn is-adran (2)—

(a)ar ddiwedd paragraff (a) mewnosoder “or”;

(b)hepgorer paragraff (b).

(5)Yn adran 48 (dehongli Rhan 2), yn is-adran (1), hepgorer y diffiniad o “council manager”.

(6)Yn Atodlen 1 (trefniadau gweithrediaeth: darpariaeth bellach), hepgorer paragraff 3.

(7)Yn Neddf Llywodraeth Leol 1972—

(a)yn adran 21 (cyfansoddiad prif gynghorau yng Nghymru), yn is-adran (1A), hepgorer “or a mayor and council manager executive”;

(b)yn adran 22 (y cadeirydd), yn is-adran (4A), hepgorer “or a mayor and council manager executive”;

(c)yn adran 25A (teitl cadeirydd neu is-gadeirydd cyngor bwrdeistref sirol), yn is-adran (3)), hepgorer “or a mayor and council manager executive”;

(d)yn adran 245 (statws dosbarthau, plwyfi a chymunedau penodol), yn is-adrannau (1A) a (4A), hepgorer “or a mayor and council manager executive”;

(e)yn adran 270 (darpariaethau cyffredinol ynglŷn â dehongli), yn is-adran (1), yn y diffiniad ““mayor and cabinet executive” and “mayor and council manager executive”” hepgorer “and “mayor and council manager executive””.

(8)Yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989—

(a)yn adran 5 (dynodiad ac adroddiadau'r swyddog monitro), yn is-adran (3)(b), hepgorer y geiriau o “and, in a case where” hyd at ddiwedd paragraff (b);

(b)yn adran 5A (adroddiadau'r swyddog monitro - awdurdodau lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth), yn is-adran (5)(b), hepgorer y geiriau o “and, where” hyd at ddiwedd paragraff (b);

(c)yn adran 13 (hawliau pleidleisio aelodau o bwyllgorau penodol: Cymru a Lloegr)—

(i)hepgorer is-adran (5A);

(ii)yn is-adran (9), hepgorer “and “mayor and council manager executive””;

(d)yn adran 21 (dehongli Rhan 1), yn is-adran (3), hepgorer ““council manager”” a “and “mayor and council manager executive””.

(9)Yn adran 106 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (treth gyngor a thâl cymunedol: cyfyngiadau ar bleidleisio)—

(a)yn is-adran (1), hepgorer “or a council manager within the meaning of section 11(4)(b) of the Local Government Act 2000”;

(b)yn is-adran (2), hepgorer “or a council manager”.

Trefniadau amgen

35Awdurdodau i roi trefniadau gweithrediaeth yn lle trefniadau amgen

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen—

(a)rhoi'r gorau i weithredu trefniadau amgen, a

(b)dechrau gweithredu trefniadau gweithrediaeth.

(2)Mae Atodlen 1 yn cynnwys darpariaeth sy'n ychwanegu at yr adran hon.

(3)Wrth gydymffurfio â'r adran hon ac ag Atodlen 1, rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

36Darpariaeth ganlyniadol etc

(1)Yn Neddf Llywodraeth Leol 2000—

(a)yn adran 29 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt), hepgorer is-adran (3);

(b)yn adran 31 (trefniadau amgen yn achos awdurdodau lleol penodol), o flaen is-adran (1) mewnosoder—

(A1)In this section references to a local authority are references to a local authority in England.;

(c)yn adran 32 (trefniadau amgen), o flaen is-adran (1) mewnosoder—

(A1)In this section references to a local authority are references to a local authority in England.;

(d)hepgorer adran 33 (gweithredu trefniadau amgen);

(e)yn adran 34 (refferendwm yn dilyn deiseb), yn is-adran (3), yn lle “29 or 33” rhodder “or 29”;

(f)yn adran 35 (refferendwm yn dilyn cyfarwyddyd), yn is-adran (3), yn lle “29 or 33” rhodder “or 29”;

(g)yn adran 36 (refferendwm yn dilyn gorchymyn), yn is-adran (3), yn lle “29 or 33” rhodder “or 29”.

(2)Yn y Mesur hwn, hepgorer adran 87(3).

(3)Yn Neddf Llywodraeth Leol 1972—

(a)yn adran 70 (cyfyngu ar hybu Mesurau seneddol i newid ardaloedd llywodraeth leol, etc), yn is-adran (3), hepgorer “or alternative arrangements”;

(b)yn adran 270 (darpariaethau cyffredinol ynglŷn â dehongli), yn is-adran (1) hepgorer y diffiniad o “alternative arrangements”.

(4)Dirymir y rheoliadau a ganlyn—

(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynigion ar gyfer Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 (O.S 2001/2293);

(b)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Trefniadau Gweithrediaeth a Threfniadau Amgen) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/3158);

(c)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/397).

(5)Nid yw is-adrannau (1) i (4) yn atal awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen ar y dyddiad cychwyn rhag parhau i weithredu'r trefniadau hynny ar y diwrnod hwnnw ac wedi hynny.

(6)Nid yw is-adrannau (1) i (4) yn cael effaith mewn perthynas ag awdurdod lleol os yw'r awdurdod lleol yn parhau i weithredu trefniadau amgen ar y dyddiad cychwyn ac wedi hynny, ac am gyhyd ag y pery i wneud hynny.

(7)Nid yw is-adrannau (5) ac (6) yn effeithio ar ddyletswydd awdurdod lleol o dan adran 35.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “dyddiad cychwyn” mewn perthynas â diwygiad a wneir gan yr adran hon, yw'r dyddiad y daw'r diwygiad hwnnw i rym.