xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 10LL+CCYFFREDINOL

172Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy'n cynnwys unrhyw un neu ragor o'r canlynol gael ei wneud onid oes drafft o'r gorchymyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)rheoliadau o dan adran 9(1)(i), Rhan 2, adran 140, 165 neu 166(2) ;

(b)gorchymyn o dan adran 127, 158, 162 neu 170;

(c)gorchymyn yn diwygio gorchymyn o dan adran 162;

(d)gorchymyn o dan adran 177 sy'n cynnwys addasiadau i ddeddfiad (ac eithrio deddfiad a geir mewn is-ddeddfwriaeth).

(3)O ran gofynion ychwanegol mewn perthynas â Gweinidogion Cymru'n gwneud gorchmynion o dan adrannau 127 a 162, gweler adrannau 173 a 169 yn ôl eu trefn.

(4)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy'n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn, ac eithrio offeryn nad yw ond yn cynnwys gorchymyn o dan adran 178 (cychwyn), yn ddarostyngedig i'w ddiddymu'n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn i gymhwyso deddfiad yn bŵer i'w gymhwyso gydag addasiadau neu hebddynt.

(6)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer (ond heb fod yn gyfyngedig iddo)—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dibenion gwahanol, neu ardaloedd daearyddol gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(c)i wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, drosiannol, ddarfodol, ganlyniadol, arbed, gysylltiedig a darpariaeth arall y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn angenrheidiol neu'n briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 172 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)

173Y weithdrefn sy'n gymwys i orchmynion penodol o dan adran 127LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â'r adran hon cyn gwneud gorchymyn o dan adran 127 i roi effaith i gynigion i addasu deddfiad y maent o'r farn ei fod yn atal neu'n rhwystro cynghorau cymuned rhag arfer eu pŵer o dan adran 2(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y cynigion”).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol—

(a)unrhyw gynghorau cymuned,

(b)unrhyw gynrychiolwyr cynghorau cymuned, ac

(c)unrhyw bersonau eraill (os oes rhai),

y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru y byddai'r cynigion yn debyg o effeithio arnynt.

(3)Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl yr ymgynghori hwnnw, yn dymuno bwrw ymlaen â'r cynigion, rhaid iddynt osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddogfen—

(a)sy'n esbonio'r cynigion,

(b)sy'n eu gosod ar ffurf gorchymyn drafft, a

(c)sy'n rhoi manylion yr ymgynghori o dan is-adran (2).

(4)Ni chaiff drafft o orchymyn o dan adran 127 i roi effaith i'r cynigion (“y gorchymyn drafft terfynol”) gael ei osod gerbron y Cynulliad yn unol ag adran 172(2)(b) tan ar ôl i'r cyfnod o 60 niwrnod, sy'n dechrau ar y diwrnod y cafodd y ddogfen ynglŷn â'r cynigion ei gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (3), ddirwyn i ben.

(5)Wrth gyfrifo'r cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (4), rhaid peidio ag ystyried unrhyw amser pryd y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.

(6)Wrth baratoi'r gorchymyn drafft terfynol rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (4).

(7)Os caiff y gorchymyn drafft terfynol ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 172(2)(b), rhaid bod gyda'r gorchymyn ddatganiad gan Weinidogion Cymru sy'n rhoi manylion—

(a)unrhyw sylwadau a ystyriwyd yn unol ag is-adran (6), a

(b)unrhyw newidiadau a wnaed i'r cynigion a oedd wedi eu cynnwys yn y ddogfen a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (3) ac y mae effaith wedi ei rhoi iddynt yn y gorchymyn drafft terfynol.

(8)Nid oes dim yn yr adran hon sy'n gymwys i orchymyn o dan adran 127 sydd wedi'i wneud yn unswydd at y diben o ddiwygio gorchymyn cynharach o dan yr adran honno—

(a)fel ei fod yn ymestyn y gorchymyn cynharach, neu unrhyw ddarpariaeth yn y gorchymyn cynharach, i gyngor cymuned penodol neu i gynghorau cymuned o ddisgrifiad penodol, neu

(b)fel bod y gorchymyn cynharach, neu unrhyw ddarpariaeth yn y gorchymyn cynharach, yn peidio â bod yn gymwys i gyngor cymuned penodol neu i gynghorau cymuned o ddisgrifiad penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 173 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)

174Canllawiau a chyfarwyddiadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi canllawiau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer i amrywio neu ddirymu'r canllawiau a roddwyd.

(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer i amrywio neu ddirymu'r cyfarwyddiadau a roddwyd.

(3)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dibenion gwahanol, neu ardaloedd daearyddol gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol.

(4)Nid yw is-adrannau (1) i (3) yn cyfyngu ar y pwerau o dan y Mesur hwn i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 174 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)

175DehongliLL+C

Yn y Mesur hwn—

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 175 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)

176Diwygiadau canlyniadol a diddymiadauLL+C

(1)Yn adran 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (Cymru), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(5)The power of the Welsh Ministers to make an order under section 21A(13)(b) or section 21G is exercisable by statutory instrument.

(6)A statutory instrument which contains an order made by the Welsh Ministers under section 21A(13)(b) is subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.

(7)A statutory instrument which contains an order under section 21G may not be made unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by a resolution of, the National Assembly for Wales..

(2)Mae Atodlen 4 (diddymiadau a dirymiadau) yn cael effaith.

(3)Nid yw dirymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1086), gan is-adran (2) yn effeithio ar bŵer y Panel i ragnodi materion mewn perthynas â chynllun a wneir o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hynny pan fo'r cynllun hwnnw'n weithredol yn ystod unrhyw ran o'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2011 (ac at y dibenion hyn, mae i “panel” a “blwyddyn ariannol” yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 8 o'r Mesur hwn).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 176(2) mewn grym ar 11.5.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 178(1)(c)

I6A. 176(2) mewn grym ar 11.7.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 178(2)(d)

I7A. 176(1) mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(p)

I8A. 176(2) mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(l)

177Y pŵer i wneud darpariaeth atodolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol ac arbed y maent o'r farn eu bod yn briodol mewn cysylltiad â'r Mesur hwn.

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (1) yn cynnwys addasiadau i unrhyw ddeddfiad (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt).

(3)Mae'r addasiadau y caniateir eu gwneud yn rhinwedd is-adran (2) yn ychwanegol at y rhai a wnaed neu y caniateir eu gwneud o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Mesur hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 177 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)

178CychwynLL+C

(1)Daw'r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—

(a)adrannau 58, 77, 79, 80 a 159;

(b)y Rhan hon (ac eithrio adran 176);

(c)Rhan E o Atodlen 4 (ac adran 176(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan E o Atodlen 4).

(2)Daw'r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—

(a)Rhannau 3 a 4;

(b)adran 55 ac adran 76;

(c)Penodau 2 i 9 o Ran 7;

(d)Rhannau B ac C o Atodlen 4 (ac adran 176(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhannau B ac C o Atodlen 4).

(3)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) a (2), daw'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 178 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)

179Enw byrLL+C

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 179 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)