xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1A. 4 wedi ei hepgor (1.5.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 4 para. 23(2); O.S. 2021/354, ergl. 2(c)
(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau—
(a)i bob person sy'n aelod o'r awdurdod lunio adroddiad blynyddol ynghylch gweithgareddau'r person fel aelod o'r awdurdod yn ystod y flwyddyn y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi,
(b)i bob person sy'n aelod o weithrediaeth yr awdurdod lunio adroddiad blynyddol ynghylch gweithgareddau'r person fel aelod o'r weithrediaeth yn ystod y flwyddyn y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi, ac
(c)i'r awdurdod gyhoeddi pob adroddiad blynyddol sy'n cael ei lunio gan ei aelodau a chan aelodau ei weithrediaeth.
(2)Caiff y trefniadau gynnwys amodau o ran cynnwys adroddiad y mae'n rhaid iddynt gael eu bodloni gan y person sydd yn ei lunio.
(3)Rhaid i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i'w drefniadau.
(4)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau ynghylch amser cynnal cyfarfodydd awdurdod lleol.
(2)Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir o dan is-adran (1).
(3)Yn is-adran (1), ystyr “cyfarfodydd awdurdod lleol” yw—
(a)cyfarfodydd yr awdurdod lleol;
(b)cyfarfodydd unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
(1)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau y darperir cyfleoedd hyfforddi a datblygu rhesymol i'w aelodau.
(2)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod adolygiad blynyddol o anghenion hyfforddi a datblygu'r aelod ar gael i bob aelod o'r awdurdod.
(3)Rhaid i'r adolygiad gynnwys cyfle am gyfweliad gyda pherson sydd, ym marn yr awdurdod, yn briodol gymwys i roi cyngor am anghenion hyfforddi a datblygu aelod o awdurdod lleol.
(4)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(5)Yn achos awdurdod sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru), nid yw cyfeiriad yn yr adran hon at aelod o awdurdod lleol yn cynnwys yr arweinydd gweithrediaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)