71.Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i weinidogion Cymru ddarparu drwy reoliad y caiff dau brif gyngor neu ragor sefydlu un neu ragor o gyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu (CTChau), a threfnu i'r pwyllgor neu'r pwyllgorau lunio adroddiadau neu wneud argymhellion i unrhyw un neu rai o'r prif gynghorau sy'n sefydlu'r pwyllgor, ac i weithrediaethau'r cynghorau hynny.
72.Caiff y CTChau lunio adroddiadau a gwneud argymhellion am unrhyw fater, ond nid ynghylch materion trosedd ac anhrefn, y gallai pwyllgor trosedd ac anhrefn lunio adroddiad neu wneud argymhellion amdanynt yn rhinwedd adran 19(1)(b) neu (3)(a) o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006.
73.Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i CTChau gael pwerau sy'n cyfateb i rai pwyllgorau trosolwg a chraffu nad ydynt yn gyd-bwyllgorau, yn y modd a nodir mewn deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes ac fel y darperir ar ei gyfer yn y Mesur hwn.
74.Mae'r adrannau hyn yn cryfhau safle pwyllgorau trosolwg a chraffu (ac yn sgil hynny, safle CTChau) drwy adeiladu ar y pŵer presennol i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion yn adran 21(2)(e) o Ddeddf 2000, fel ei bod yn ofynnol i bwyllgorau graffu a chyflwyno adroddiad ar faterion sy'n ymwneud â “pherson dynodedig” (gweler adran 61). Y prif newidiadau eraill yw pwerau newydd ar gyfer pwyllgor: ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi (gofyniad y mae'n rhaid cydymffurfio ag ef); i anfon copi o adroddiad neu argymhellion at berson dynodedig; ac i ofyn i'r person hwnnw roi sylw i'r adroddiad neu'r argymhellion.
75.Mae'n caniatáu i Weinidogion Cymru ddynodi drwy orchymyn y personau hynny neu'r categorïau hynny o bersonau (“person dynodedig”) y caniateir i bwyllgor trosolwg a chraffu i awdurdod lleol graffu ar eu cyfrifoldebau neu eu swyddogaethau. Effaith yr amodau yn is-adrannau (3) i (5) yw cyfyngu'r pŵer dynodi i bersonau sy'n darparu i’r cyhoedd wasanaethau, nwyddau neu gyfleusterau, hyd yn oed os nad yw'r gwaith darparu hwnnw'n cael ei gyflawni'n uniongyrchol gan y personau hynny.
76.Mae'n cyflwyno darpariaeth i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i alluogi'r cyhoedd i fynegi eu barn mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n cael ei ystyried gan y pwyllgor.
77.Mae'n diwygio adran 21A o Ddeddf 2000 i alluogi cynghorydd prif gyngor yng Nghymru i gyfeirio mater at bwyllgor trosolwg a chraffu sy'n ymwneud â chyflawni unrhyw un neu rai o swyddogaethau'r cyngor neu sy'n effeithio ar y cyfan neu ran o'r ardal etholiadol y mae'r cynghorydd yn ei chynrychioli. Rhaid i'r pwyllgor ystyried y mater ac adrodd yn ôl i'r aelod.
78.Mae'n gymhwyso o ran Cymru y ddarpariaeth yn adran 21B o Ddeddf 2000 sy'n nodi'r camau y mae'r rhaid i bwyllgor trosolwg a chraffu eu cymryd i hysbysu'r awdurdod neu'r weithrediaeth am adroddiad y mae wedi ei lunio a'r camau y mae'n rhaid i’r awdurdod neu’r weithrediaeth eu cymryd i ymateb.
79.Mae'n estyn y diffiniad o wybodaeth sy'n esempt rhag cael ei chyhoeddi mewn adroddiadau etc pwyllgor trosolwg a chraffu i gynnwys yr hyn sydd wedi ei esemptio o dan adran 186 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006.
80.Mae'r adrannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud darpariaeth yn ei reolau sefydlog ar gyfer penodi cadeiryddion i bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod (y “weithdrefn benodi”). Mae'r adrannau'n nodi hefyd pwy fydd yn penodi'r cadeiryddion, penderfyniad sy'n dibynnu ar nifer y grwpiau gwleidyddol sydd â chynrychiolwyr yn yr awdurdod hwnnw a chyfansoddiad gweithrediaeth yr awdurdod. Bydd y pwyllgorau eu hunain yn penodi eu cadeiryddion o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 67; bydd y grŵp gwleidyddol anweithredol yn gwneud hynny os yr amgylchiadau yn adran 68 yw'r amgylchiadau hynny. Mae adran 69 yn cyflwyno'r trefniadau a fydd yn gymwys mewn achosion eraill.
81.Mae'r adrannau hyn yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer awdurdodau pan na fo adrannau 67 na 68 yn gymwys, sef yn gyffredinol yr awdurdodau hynny y mae eu haelodaeth wedi ei rhannu rhwng nifer o grwpiau gwleidyddol.
82.Nod bras yr adrannau hyn yw'r gofyniad i awdurdodau lleol wneud darpariaeth ar gyfer dyrannu nifer y cadeiryddion pwyllgorau craffu yn gyfrannol, ynghyd â'r amod ychwanegol na chaiff y grŵp (neu'r grwpiau) gwleidyddol sy'n ffurfio gweithrediaeth y cyngor ddyrannu mwy o gadeiryddion craffu i'w grŵp (grwpiau) na'r nifer sy'n gyfrannol i'w gynrychiolaeth (gyfun) yn y cyngor llawn (h.y. yr holl aelodau, p'un a ydynt yn aelodau o grwpiau gwleidyddol ai peidio). Os nad yw'r hawl i gadeiryddion y grŵp (grwpiau) yn y weithrediaeth yn rhif cyfan, mae'r nifer y mae gan y grŵp (grwpiau) hawl i’w gael i'w dalgrynnu i lawr i'r rhif cyfan agosaf. Mae'r egwyddorion ar gyfer dyrannu cadeiryddion craffu i grwpiau gwleidyddol sy'n ffurfio'r weithrediaeth i'w cael yn is-adran (3) newydd adran 70.
83.Mae gweddill y cadeiryddion craffu i'w dyrannu wedyn i grwpiau gwleidyddol yr wrthblaid, a dyraniad pob grŵp gwrthblaid i fod yn gyfrannol i gryfder y grŵp hwnnw o ran nifer o fewn cyfanswm cyfunol y grwpiau gwrthblaid (is-adran (4) o adran 70). Ni ddylai'r broses o gyfrifo cadeiryddion craffu ar gyfer grwpiau gwrthblaid gymryd i ystyriaeth gynghorwyr nad ydynt yn aelodau o grwpiau gwleidyddol yn yr awdurdod.
84.Mae adran 71 yn nodi beth sydd i ddigwydd os na chaiff unrhyw gadeiryddion pwyllgor eu penodi'n unol ag adran 70. Ni chaiff grŵp (grwpiau) yr weithrediaeth gael mwy o benodiadau. Caiff y grŵp (grwpiau) gwrthblaid sydd wedi llwyr ddefnyddio eu dyraniad cychwynnol o benodiadau gael penodiadau ychwanegol yn gyfrannol i nifer eu penodiadau cychwynnol. Os yw pob un o'r grwpiau gwrthblaid wedi methu â llwyr ddefnyddio ei ddyraniad cychwynnol o benodiadau neu os oes gan grŵp gwrthblaid hawl i benodiad ychwanegol ond nad yw'n ei ddefnyddio, bydd y pŵer penodi yn yr achosion hyn yn dod i ran y pwyllgorau.
85.Os bydd cyfansoddiad y weithrediaeth yn newid, rhaid ailedrych ar ddyraniad y cadeiryddion craffu ac efallai y bydd angen gwneud newidiadau i'r dyraniadau, fel a nodir yn adran 72. Mae'r weithdrefn ar gyfer sefyllfa pan fo swydd cadeirydd craffu yn dod yn wag wedi ei nodi yn adran 73.
86.Mae adran 74 yn caniatáu i awdurdod lleol hepgor y gofyniad i ddilyn y gweithdrefnau uchod os cytunir ar weithdrefn benodi amgen gan bob grŵp gwleidyddol, ar yr amod na fydd y weithdrefn amgen yn arwain at y canlyniad bod y blaid fwyafrifol yn dyrannu nifer mwy o gadeiryddion craffu o'u plaid hwy na'r hyn a fyddai gweithdrefn 70 yn ei ganiatáu.
87.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch y weithdrefn benodi ar gyfer dyrannu cadeiryddion pwyllgorau craffu ac i ddyroddi canllawiau neu gyfarwyddiadau. Mae'r adran hefyd yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn adrannau 66 i 75 ac yn mewnosod is-adran (10A) newydd yn adran 21 o Ddeddf 2000 i gyfeirio darllenwyr at adrannau 66 i 75 o'r Mesur.
88.Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau neu gyfarwyddyd ynghylch cyfethol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
89.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth i'w gwneud yn ofynnol i gyhoeddi blaengynllunia pwyllgorau ac is-bwyllgorau trosolwg a chraffu.
90.Mae'n gwahardd defnyddio chwip mewn cyfarfodydd pwyllgorau trosolwg a chraffu. Mae'r adran yn nodi gweithdrefn ar gyfer datgan, penderfynu a chofnodi chwip plaid gwaharddedig mewn cyfarfodydd pwyllgor craffu a chanlyniadau rhoi chwip plaid gwaharddedig
91.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau neu roi cyfarwyddiadau ynghylch pwyllgorau trosolwg a chraffu.
92.Mae'r adran hon yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn y Bennod hon.
93.Mae'r adrannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol benodi pwyllgor archwilio i adolygu materion ariannol yr awdurdod a’r swyddogaethau eraill a nodir yn adran 81, gan gynnwys llunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â'r rhain, a chraffu ar y materion a’r swyddogaethau hynny. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ofyniad statudol i awdurdodau lleol yng Nghymru gael pwyllgor o'r fath.
94.Rhaid i gadeirydd y pwyllgor archwilio beidio â bod yn aelod o grŵp sy’n rhan o weithrediaeth y cyngor, ac eithrio pan fo pob grŵp wedi ei gynrychioli ar y weithrediaeth (ac yn yr achos hwnnw rhaid i’r cadeirydd beidio â bod yn aelod o’r weithrediaeth).
95.Mae'r adrannau yn gwneud darpariaeth ar gyfer swyddogaethau, aelodaeth, cadeirydd, trafodion, pa mor aml i gynnal cyfarfodydd, cyflawni swyddogaethau a therfynu aelodaeth. Mae adran 85 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau am swyddogaethau ac aelodaeth pwyllgorau archwilio a’r rheini’n ganllawiau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol a phwyllgorau archwilio roi sylw iddynt. Mae adran 87 yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn y Bennod hon.