58.Mae’n gwneud darpariaeth newydd i symleiddio’r weithdrefn i awdurdod lleol sydd eisoes yn gweithredu un ffurf ar drefniadau gweithrediaeth a ganiateir newid i ffurf arall ar drefniadau gweithrediaeth, ond yn ei alluogi i wneud newid o’r fath unwaith yn unig rhwng etholiadau cyffredin. Mae’r gweithdrefnau newydd yn golygu na fydd angen mwyach i awdurdod ymgynghori’n ffurfiol ag etholwyr lleol na llunio cynigion wrth gefn.
59.Mae’r adrannau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdod lleol sydd am newid o un ffurf ar drefniadau gweithrediaeth i un arall, ac yn nodi’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol i’r awdurdod hwnnw eu dilyn, a chynnwys y cynigion ar gyfer y newid y mae’n rhaid iddo eu paratoi a’u hanfon at Weinidogion Cymru (gweler adran 38).
60.Os yw’r newid arfaethedig yn newid i ffurf ar drefniadau gweithrediaeth sy’n cynnwys maer etholedig, rhaid i’r cynigion gynnwys darpariaeth ar gyfer refferendwm o etholwyr llywodraeth leol yn yr awdurdod o dan sylw i gymeradwyo’r newid arfaethedig, ond rhaid peidio â chynnal refferendwm os yw’r newid y newid i unrhyw ffurf arall ar drefniadau gweithrediaeth (adran 40). Mae gofyniad i gynnal refferendwm yn ddarostyngedig i’r cyfyngiad yn adran 45 o Ddeddf 2000 na chaniateir i refferendwm ar drefniadau gweithrediaeth gael ei gynnal fwy nag unwaith mewn unrhyw gyfnod o bum mlynedd. Mae’r amserlenni ar gyfer rhoi ar waith newid y cytunwyd arno wedi eu nodi yn adrannau 41 a 42. Os yw awdurdod yn cymeradwyo newid nad yw’n ofynnol cael cymeradwyaeth ar ei gyfer mewn refferendwm, rhaid iddo roi cyhoeddusrwydd i’r newid arfaethedig yn y modd a nodir yn adran 43.
61.Os oes rhaid cynnal refferendwm a bod y newid yn cael ei wrthod gan y pleidleiswyr, ni chaiff yr awdurdod roi’r newid ar waith (adran 44). Rhaid iddo ddilyn y weithdrefn yn adran 45 a pharhau i weithredu ei drefniadau gweithrediaeth presennol.
62.Mae’r adran hon yn darparu ei bod yn ofynnol i newid mewn trefniadau gweithrediaeth gael ei gymeradwyo mewn refferendwm os yw naill ai’r model presennol neu’r model arfaethedig yn weithrediaeth maer a chabinet.
63.Mae’r adran hon yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn y Bennod hon o’r Mesur.
64.Mae’r adrannau hyn yn cyflwyno darpariaeth newydd i alluogi awdurdod lleol sy’n gweithredu trefniadau gweithrediaeth i amrywio’r trefniadau fel eu bod yn wahanol i’r trefniadau presennol ond yn dal i weithredu â’r un model.
65.Mae’n egluro mai at ddibenion y Rhan hon y mae dwy ffurf ar weithrediaeth yng Nghymru.
66.Mae’r adran hon yn cynnwys diwygiadau canlyniadol i adrannau o Ddeddf 2000 sy’n ymwneud â’r Rhan hon o’r Mesur. Mae Adran 30 o Ddeddf 2000 yn nodi’r gweithdrefnau presennol ar gyfer newid trefniadau gweithrediaeth, sydd wedi eu disodli gan y darpariaethau yn y Rhan hon ynghylch newid trefniadau gweithrediaeth a’u hamrywio. Diben mewnosod yr adran 33ZA newydd yw cyfeirio darllenwyr at y darpariaethau ar gyfer newid trefniadau llywodraethu yng Nghymru yn y rhan hon o’r Mesur. Mae’r diwygiad i adran 45 o Ddeddf 2000 yn ehangu’r diffiniad o refferendwm i gynnwys y darpariaethau a fewnosodir gan y Mesur hwn.