Nodiadau Esboniadol i Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Nodiadau Esboniadol

Adran 37 – Y pŵer i fabwysiadu ffurf wahanol ar weithrediaeth

58.Mae’n gwneud darpariaeth newydd i symleiddio’r weithdrefn i awdurdod lleol sydd eisoes yn gweithredu un ffurf ar drefniadau gweithrediaeth a ganiateir newid i ffurf arall ar drefniadau gweithrediaeth, ond yn ei alluogi i wneud newid o’r fath unwaith yn unig rhwng etholiadau cyffredin. Mae’r gweithdrefnau newydd yn golygu na fydd angen mwyach i awdurdod ymgynghori’n ffurfiol ag etholwyr lleol na llunio cynigion wrth gefn.

Back to top